Ein Cynllun Corfforaethol 2022-2025
Darllen ein Cynllun Corfforaethol llawn
Gwyliwch y fideo esboniadol hwn i ddysgu mwy
Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi beth rydym am ei gyflawni erbyn 2025. Mae’n adlewyrchu ein gweledigaeth a’n gwerthoedd, ein hegwyddorion sylfaenol, a’r gweithredoedd allweddol rydym yn dymuno eu cyflawni.
Ein Gweledigaeth
I ddarparu gwasanaethau rhagorol i’n cwsmeriaid, buddsoddi yn ein stoc bresennol, ac adeiladu mwy o dai fforddiadwy o ansawdd uchel, carbon isel
Ein Gwerthoedd
Bydd ein nodau ar gyfer 2025 yn unol â’n gwerthoedd craidd:
Agored a Theg |
Uchelgeisiol |
Dibynadwy |
|
|
|
Themâu allweddol y Cynllun Corfforaethol
RHOI PROFIAD RHAGOROL I’R CWSMER
Cyflawni cyfartaledd o dros 90% o foddhad Cwsmer â’n gwasanaethau rheng flaen
Erbyn 2025 byddwn wedi cyflawni:
- Cynyddu boddhad ein cwsmeriaid gyda’n gwasanaethau
- Cynnal ein safon tai gwag
- Adolygu amserlenni gwaith cynnal a chadw
- Gwella sut rydym yn gwrando ac ymateb
DARPARU CARTREFI O ANSAWDD Y GELLIR BOD YN FALCH OHONYNT
Adeiladu 750 o gartrefi newydd a Buddsoddi £60m yn ein cartrefi presennol
Erbyn 2025 byddwn wedi:
- Cynyddu ein buddsoddiad yn ein cartrefi presennol
- Cynyddu nifer ein cartrefi i dros 7,500
- Cynnal cydymffurfiaeth o’n cartrefi a’r gofynion diogelwch
- Cynnal cydymffurfiaeth ein cartrefi i Safon Ansawdd Tai Cymru
DATGARBONEIDDIO EIN CARTREFI
Gwneud gwaith effeithlonrwydd ynni ar 1,000 o’n cartref
Erbyn 2025 byddwn wedi cyflawni:
- Lleihau allyriadau carbon ein cartrefi’n gyffredinol
- Cynyddu ein defnydd o ddeunyddiau o ffynonellau cynaliadwy
- Cynyddu y nifer o’n gweithlu mewnol wedi’u hyfforddi yntechnolegau ac adeiladu gwyrdd
CEFNOGI POBL A CHYMUNEDAU I FFYNNU
Cefnogi 5,000 o bobl i ffynnu
Erbyn 2025 byddwn wedi:
- Cynyddu y nifer o bobl a gefnogir mewn I waith neu hyfforddiant
- Gwella teimlad ein cwsmeriaid o fod yn ddigoel yn eu cartref a’u cymuned
- Gwella lles a diogelwch ein cwsmeriaid
- Gwella ein cyswllt a chefnogaeth gyda ein cwsmeriaid a’r gymuned ehangach