Darparu cartrefi i staff nyrsio tramor Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Bydd mwy o gartrefi ar gael i staff nyrsio allweddol yng ngogledd Cymru wrth sefydlu’r bartneriaeth gyntaf o’i fath rhwng ni a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Bydd y cynllun yma’n darparu cartrefi cyffyrddus ac o safon i staff nyrsio a gweithwyr allweddol tramor. Mae’r pedair aelod o staff cyntaf bellach wedi ymgartrefu yn eu tŷ newydd yn Abergele. Rydan ni, Adra, wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn darparu cartref i 75 o nyrsus y flwyddyn, er mwyn cyfarch gofynion y Bwrdd Iechyd.
Bydd gan staff nyrsio’r Bwrdd Iechyd lety o ansawdd uchel, diogel a fforddiadwy, yn agos at eu gwaith. Mae argaeledd llety o’r fath o fewn ardal gwaith y Bwrdd Iechyd wedi bod yn brin a chyfyngedig yn y gorffennol.
Dywedodd Iwan Trefor Jones, ein Dirprwy Brif Weithredwr:
“Rydym yn falch ein bod yn parhau â’r bartneriaeth hefo Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ac rydym yn ymfalchïo mewn gallu cynnig ein cefnogaeth i’r GIG drwy’r cyfnod heriol ac ansicr yma.
“Wrth weithio mewn amgylchiadau heriol, mae cartref cyffyrddus yn werthfawr ac yn bwysig. Rydym yn hapus ein bod yn gallu darparu hyn i staff nyrsio a gweithwyr allweddol tramor sy’n rhan hanfodol o gefnogi ysbytai lleol y GIG.”
Dywedodd Mark Wilkinson, Prif Gyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr:
“Mae cydweithio hefo Adra ar hyn yn hwb gwych i ni gan fod ganddynt yr arbenigedd mewn gwasanaethau landlord. Mae’r pandemig COVID-19 wedi cyflwyno heriau mewn recriwtio staff, a staff tramor yn benodol. Mae gallu darparu llety modern, ansawdd uchel i’n staff mewn partneriaeth ag Adra yn ddatblygiad yr ydym yn croesawu.”
Dywedodd April Bureros, aelod o staff nyrsio tramor sydd bellach yn denant i Adra:
“Pan gyrhaeddom roedd y tŷ yn groesawgar ac roedd popeth yr oeddem angen yn y tŷ yn barod. Mae gennym amgylchfyd cyffyrddus a distaw i ddod adref iddo ar ôl shifft brysur yn yr ysbyty.”