Gwaith yn dechrau ar dai fforddiadwy newydd yn Y Bala
Rydym yn adeiladu naw o dai newydd yn Y Bala. Mae’r gwaith adeiladu wedi dechrau mewn partneriaeth â contractiwr lleol rydym wedi penodi sef Gareth Morris Construction Ltd.
Rydym yn ymateb i’r argyfwng tai yng Ngwynedd ac yn ceisio cyfrannu tuag at y sefyllfa wrth ddarparu tai fforddiadwy a chymdeithasol er mwyn cyfarch yr angen tai lleol.
Fel rhan o’n rhaglen datblygu, rydym yn gweithio ar 130 o gartrefi ychwanegol sydd ar safle yng Ngwynedd, hefo mwy ‘na 200 o dai ychwanegol i ddod ar draws Gwynedd.
Mae ein rhaglen datblygu wedi gweld twf sylweddol ac wedi tyfu wrth gydweithio â chontractwyr lleol fel Gareth Morris Construction, gan gefnogi busnesau bach a Chanolig a’r gadwyn gyflenwi leol, gan gyfrannu i’r economi lleol.
Dywedodd Daniel Parry, ein Cyfarwyddwr Datblygu:
“Mae Adra yn tyfu drwy adeiladu tai, creu swyddi a chyfleoedd ar draws Gwynedd a gogledd Cymru.
“Rydym wedi bod yn gwneud ymdrech fawr i greu a datblygu mwy o dai am bris fforddiadwy i gyfarch yr angen tai lleol yng ngogledd Cymru.
“Rydym yn hapus iawn i fod yn gweithio mewn partneriaeth a pharhau’r berthynas weithio dda gyda Gareth Morris Construction Ltd. Mae defnyddio cwmnïau lleol a chyfrannu i’r economi leol tra’n darparu tai i bobl sydd eu hangen yn bwysig iawn i ni.”
Dywedodd Dylan Wyn Jones, Rheolwr Gweithrediadau Gareth Morris Construction Ltd:
Dylan Wyn Jones, Operations Manager at Gareth Morris Construction Ltd, said:
“Rydym yn teimlo’n gyffrous ein bod wedi cael gwaith pellach hefo Adra ac yn falch o gyhoeddi ein bod wedi dechrau ar y gwaith adeiladu i greu cartrefi fforddiadwy newydd yn natblygiad Cysgod y Coleg, Y Bala. Rydym yn parhau i gydweithio mewn partneriaeth hefo Adra ar ôl cwblhau nifer o ddablygiadau tai fforddiadwy hefo’n gilydd, sy’n cynnwys datblygiadau ym Mangor, Dolgellau a Pwllheli.”
“Bydd y cynllun yma yn Y Bala hefyd yn darparu gwerth cymdeithasol a gwerth cymdeithasol i’r gymuned lleol ar gyfer hyfforddiant a chyflogaeth, yn ogystal â ymgysylltu hefo busnesau bach a chanolig.”
Bydd tri byngalo dwy-ystafell wely a chwe tŷ dwy-ystafell wely ar gael ar sail rhent cymdeithasol.
Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn cartref rhent cymdeithasol, mae angen iddynt gofrestru gyda Tîm Opsiynau Tai Cyngor Gwynedd: 01286685100 / opsiynautai@gwynedd.llyw.cymru