Partneriaeth Sero Net Gwynedd yn ennill Cyllid Adnewyddu Cymunedol i Wynedd
Mae landlordiaid cymdeithasol gan gynnwys ni’n hunain sef Adra, Grŵp Cynefin a phartneriaid, wedi cael y swm o arian mwya erioed i brosiect unigol yng Ngwynedd o Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU. Bydd yn cefnogi’r trawsnewid i ddatgarboneiddio cartrefi yng ngogledd Cymru. Mae Prosiect Sero Net Gwynedd wedi derbyn £589,203 mewn cyllid gan Llywodraeth y DU fel rhan o Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU. Mae £195,000 yn ychwanegol yn gyllid cyfatebol gan bartneriaid, i greu 26 o swyddi ar gyfer pobl sydd wedi bod yn ddi-waith am dymor hir, a cannoedd o gyfleoedd hyfforddi i bobl ifanc, a’r gadwyn cyflenwi lleol.
Mae buddsoddiad o sgiliau o’r gronfa Ffynniant Bro (Levelling Up) Llywodraeth Prydain am gefnogi datgarboneiddio miloedd o dai ar draws Gwynedd. Bydd uwch-sgilio’r gweithlu lleol i gael mwy o dai sy’n effeithiol o ran defnydd ynni, yn dod trwy CIST (Centre for Infrastructure Skills and Technology) Grŵp Llandrillo Menai. Bydd CIST yn cynnig hyfforddiant proffesiynol achrededig ar gyfer sector busnes ac arbenigol.
Rodden ni, Adra, ymhlith y cymdeithasau tai cyntaf yng Nghymru i lawnsio strategaeth dadgarboneiddio ym mis Tachwedd 2020, hefo Gweinidog dros Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Julie James. Mae’r strategaeth yn dangos ein ymroddiad i dargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer creu cartrefi carbon-sero erbyn 2030, hefo targed 2050 ar draws y DU. Bydd chwe hwb cymunedol yn cael eu datblygu ar draws Gwynedd, fel bod trigolion yn deall sut mae technoleg lân yn cyfrannu tuag at atebion dadgarboneiddio. Bydd y buddsoddiad yma yn creu cartrefi sydd yn fwy effeithlon o ran defnydd ynni, cwtogi biliau ynni, a helpu adnewyddu cymunedau lleol.
Mae’r bartneriaeth arloesol yn cynnwys mentrau cymunedol fel Datblygiadau Egni Gwledig a Phartneriaeth Ogwen, sy’n cefnogi cymunedau i weithio gyda’i gilydd i fod yn fwy gynaliadwy. Caiff cadwyni cyflenwi lleol yng Ngwynedd, fel y Fframwaith Deunyddiau gyda Travis Perkins, eu cryfhau. Bydd Travis Perkins, sef dosbarthwr mwya o ddeunyddiau adeiladu yn y DU, yn gweithio hefo busnesau bychain a chanolig yng Ngwynedd, i leihau ôl-troed carbon a chynnig hyfforddiant i hyrwyddo ynni adnewyddol. Bydd hyfforddiant ynglwm â hyn yn cynnwys gosod gwresogyddion pympiau aer a phaneli solar.
Dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr Adra, a Chadeirydd Partneriaeth Sero Net Gwynedd, Iwan Trefor Jones: “Bydd prosiect Sero Net Gwynedd yn sefydlu dull o weithio hefo nifer o randdeiliaid hefo’I gilydd i ddatblygu gallu lleol i reoli yr heriau o ddadgarboneiddio stoc tai Gwynedd. Bydd yn creu cynllun i sicrhau fod Gwynedd yn ledio ar ddadgarboneiddio gan ddysgu trwy brofiad ac ysbrydoli dulliau tebyg o weithio trwy ogledd Cymru a thu hwnt. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys partneriaid strategol sydd am roi ffocws ar roi cyngor i gwsmeriaid lleol, gan ddatblylgu’r gadwyn cgflenwi lleol, a gwella sgiliau pobl ifanc lleol.”
Dywedodd Meleri Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen: “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o bartneriaeth Sero net Gwynedd. Fel mudiad cymunedol sy’n gosod y gymuned, yr amgylchedd a’r economi wrth wraidd beth a wnawn, rydym mewn sefyllfa da I fod yn gyrru’r gwaith yma yn lleol, gyda’n cwsmeriaid presennol a rhai newydd.”
Dywed Michael Gove, Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn Llywodraeth Prydain: “Rydym yn ceisio dod a ffyniant i bob cornel o’r Deyrnas Unedig, yn cefnogi prosiectau lleol a fydd yn gneud gwir wahaniaeth i gymunedau, ac yn gwireddu ar ein haddewidiaion net sero. Mae yna wir dalent ar draws y wlad ac mae’r buddsoddiad yma yn mynd i ddatgloi cyfleoedd i gyd-fynd â hyn.”