Buddsoddi yn eich cartrefi i’w gwneud yn fwy effeithlon
Rydym yn falch iawn o gael cydweithio gyda chwmni adeiladu lleol W.F.CLaytons ar nifer o gynlluniau ar ein cartrefi i’w gwneud yn fwy effeithlon.
Mae gan W.F.Claytons dros 35 mlynedd o brofiad yn y maes adeiladu a mae’n bleser cael cydweithio gyda nhw eto. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw’r cartrefi sydd gennym i’n tenantiaid ac felly mae’n hanfodol ein bod yn buddosddi yn y cartrefi yma er mwyn cyfarch yr angen lleol am dai.
Trwy weithio law yn llaw a W.F.Claytons byddwn yn canolbwyntio ar waith allanol yn y cartrefi yma.
Bydd y gwaith yn amrywio o gartref i gartref a bydd ein staff yn trafod gyda phob tenant yn unigol yn dilyn archwiliad ar y cartref, ond yn fras dyma beth all gwaith allanol ei olygu:
- Gosod to newydd
- Ail chwipio waliau
- Insiwleiddio waliau’r cartref
- Gosod ffenestri a drysau newydd
- Gosod gwteri a ‘fascia boards’ newydd
- Gwella neu gosod ffens a llwybrau newydd
Fel dachi’n ei weld mae’n waith sylweddol ar gartref a mae cwblhau gwaith fel hyn yn cymryd amser. Ond rydym yn teimlo fod buddsodi arian ag amser i wneud y gwaith yma yn un o’n prif flaenoriaethau ni. Gyda phrisiau ynni yn cynyddu a chostau byw mor uchel rydym yn deall y pwysau sydd ar bawb gan gynnwys ein cwsmeriaid ac felly yn deall pwysigrwydd gwneud eich cartref y mwyaf effeithlon â phosib.
Yn ôl Mathew Gosset, ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol Asedau
“Mae cael cydweithio a chwmni W.F.Claytons ar y gynlluniau yma yn golygu ein bod yn cadw’r bunt yn lleol a fod y gymuned leol yn elwa o’r buddosoddiad trwy gynlluniau gwerth cymdeithasol.”
“Mae’r math yma o waith yn cael effaith positif ar ôl- carbon ac effeithlonrwydd ynni y cartref. Ar gyfartaledd mae pob cartref sydd yn derbyn gwaith insiwleiddio yn lleihau ei ôl-troed carbon tua 20% a mae hefyd yn help i leihau costau ynni i’n tenantiaid, sy’n bwysig iawn yn yr hinsawdd bresennol”.
Cadwch olwg ar ein cyfryngau cymdeithasol i weld lluniau ar sut mae’r datblygiadau yma yn dod yn eu blaen dros yr wythnosau nesaf.