Gwerth Cymdeithasol
Yr effaith economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cadarnhaol ‘da ni’n gael ar gymdeithas.
Yr effaith economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cadarnhaol ‘da ni’n gael ar gymdeithas.
Dyma’r ail adroddiad o’i fath i nie i gynhyrchu fel ffordd o adnabod sut mae cymunedau ar draws gogledd Cymru wedi elwa o’r holl waith datblygu a chynnal a chadw a wnaed, yn ogystal â gwasanaethau i gefnogi tenantiaid.
Mae’r elfen gwerth cymdeithasol yn adlewyrchu’r gwerth cadarnhaol y mae’r busnes yn ei greu i’r economi leol, cymunedau a’r gymdeithas ehangach.
Darllen ein hadroddiad Gwerth Cymdeithasol
Byddwch yn lawrlwytho copi o’r Adroddiad Gwerth Cymdeithasol trwy glicio’r botwm yma.
Beth mae gwerth cymdeithasol yn ei olygu i ni?
Yn Adra, rydym eisiau gwneud y mwyaf o’n gwariant, buddsoddi a gweithgareddau i greu gwerth cymdeithasol ychwanegol, tymor hir i bobl o fewn ein cymunedau.
Ein Blaenoriaethau Gwerth Cymdeithasol
• Cadw ein gwariant yn lleol
• Creu cyfleoedd gwaith i’n tenantiaid a’r bobl sy’n byw yn ein cymunedau
• Diogelu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg
• Lleihau ein hôl-troed carbon
Ein Blaenoriaethau Corfforaethol
1. Darparu profiad rhagorol i’r cwsmer
2. Darparu cartrefi o safon y gellir bod yn falch ohonynt
3. Datgarboneiddio ein cartrefi
4. Cefnogi pobl a chymunedau i ffynnu
5. Cryfhau ein busnes
Y 7 Nod Llesiant
Fel Cymdeithas Dai Gymreig, rydym hefyd yn ystyried ein cyfraniad at gyflawni 7 Nod Llesiant a nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r Pum Dull o Weithio yr amlinellir yn y Ddeddf.
Y Pum Dull o Weithio
Hirdymor | Atal | Cydweithio | Cynnwys | Integreiddio
Cyfanswm gwerth cymdeithasol 2022/2023 = £5,751,074
Fel busnes, rydym yn awr ddwy flynedd mewn i’n siwrnai gwerth cymdeithasol. Ers i ni ddechrau edrych ar sut i ddal ein gwerth cymdeithasol a gwerth ychwanegol, rydym wedi penodi Cydlynydd Gwerth Cymdeithasol, ac wedi ceisio prif ffrydio gwerth cymdeithasol ar draws y busnes a’i wreiddio ym mhopeth yr ydym yn ei wneud.
Ein nod yw parhau â’r siwrnai hon a gwella’r ffordd yr ydym yn dal y budd ychwanegol y mae ein gweithgareddau yn ei greu ar gyfer ein tenantiaid a phartneriaid, bob blwyddyn.
134 wedi cael cymorth i gyflogaeth a hyfforddiant
£16,916 o grantiau wedi’u rhoi i grwpiau cymuedol lleol
19,281 o geisiadau atgyweirio wedi’u cwblhau yn ein cartrefi
10% o’n fflyd yn
rhedeg yn gyfan gwbl
ar drydan neu hybrid