Tai fforddiadwy Plas Penrhyn
Bydd y datblygiad yma sydd yn gymysgedd o dai dwy a thair ystafell wely a bynglos dwy ystafell wely ar gael yn fuan.
Bydd y cartrefi yn gymysgedd o rent cymdeithasol, rhent canolraddol a pherchnogaeth cartref cost isel.
Cartrefi Gydol Oes
Bydd pob cartref yn cael ei gynllunio drwy gynllun Cartrefi Gydol Oes, Diogel drwy Ddylunio (Safon Aur), Gofynion Ansawdd Dylunio (DQR Cymru) Llywodraeth Cymru, gyda chyplau a theuluoedd mewn golwg.
Wrth ddewis cartref, rydym yn credu ei bod yn iawn disgwyl adeilad o safon uchel, a dylai’r datblygwr gynnig mwy na brics a morter.
Drwy ddewis y lleoliadau gorau yn ofalus ar gyfer ein cartrefi sydd wedi’u dylunio’n hyfryd,
gallwn greu lleoliadau ysbrydoledig i chi fyw’n dda a chynorthwyo cymunedau i ffynnu.
Cartrefi Rhent Cymdeithasol
Os oes gennych ddiddordeb byw yn un o’r cartrefi rhent cymdeithasol yma ym mhlas Penrhyn, ewch draw i wefan Cyngor Conwy i gofrestru gyda’r Tîm Datrysiadau Tai.
Cofrestru i fyw mewn cartref rhent cymdeithasol – Plas Penrhyn
Cartrefi Rhent Canolraddol
Os oes gennych ddiddordeb byw yn un o’r cartrefi rhent canolraddol yma ym mhlas Penrhyn, ewch draw i wefan Tai Teg i gofrestru
Cofrestru ar gyfer cartref rhent canolraddol
Am fwy o wybodaeth, darllennwch y pamffled yma neu lawrlwythwch y daflen wybodaeth yma.