Pupils and tutor taking part in Academi Adra course

Manteision sylweddol i fenter hyfforddi a datblygu Adra

Mae Academi Adra, a gafodd ei sefydlu i gefnogi unigolion i ddatblygu sgiliau newydd a chael mynediad at swyddi, yn darparu buddion cymdeithasol sylweddol i gymunedau lleol.

Fe gafodd Academi Adra ei lawnsio ym mis Ebrill 2021 ac mae’n gweithio gyda phartneriaid, yn cynnig profiad gwaith a lleoliadau, prentisiaethau, hyfforddeiaethau a chyfleoedd gwirfoddoli.

Roedd y ffigyrau diweddaraf a drafodwyd gan ein Bwrdd yn dangos gwerth cymdeithasol o £284,000 i waith yr Academi hyd yma, gyda budd o £48 am bob punt a fuddsoddwyd gan Adra.

Hyd yma:

• Mae 91 o unigolion wedi cael eu cefnogi i gael hyfforddiant a/neu brofiadau gwaith

• Mae 31 wedi cael mynediad i hyfforddiant

• Mae 30 wedi eu cefnogi gyda phrentisiaethau

• Mae 12 wedi cael cymorth i gael swyddi gydag Adra neu ei gontractwyr

• Mae 8 wedi cael profiad gwaith cyflogedig

• Mae 3 unigolyn, dau ohonynt yn denantiaid Adra, wedi cael cynnig swyddi llawn amser yn nhîm Gwasanaethau Cwsmeriaid Adra yn dilyn hyfforddiant drwy’r Academi.

Mae nifer o gyrsiau wedi’u cynnal, gan gynnwys 6 chwrs ‘Llwybr Adeiladu’ a chwrs gwasanaeth cwsmeriaid gyda Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Ceri Ellis-Jackson, Cydlynydd Gwerth Cymdeithasol yn Adra: “Rydym wrth ein bodd gyda llwyddiant Academi Adra hyd yma, gan ei fod wedi rhoi cyfleoedd i bobl ddatblygu eu sgiliau a pharatoi ar gyfer byd gwaith.

“Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad hirdymor Adra i wella bywyd unigolion a chymunedau drwy ddarparu hyfforddiant a datblygiad o ansawdd uchel.

“Mae Academi Adra yn anelu at ehangu a gweithio mewn ardaloedd eraill o fewn a thu allan i Wynedd, cysylltu â mwy o bartneriaid a gwneud y mwyaf o gyfleoedd trwy brosiectau twf Adra, gan gynnwys datblygu Tŷ Gwyrddfai, yr hwb datgarboneiddio sy’n cael ei sefydlu ym Mhenygroes.

Mae Academi Adra wedi gweithio’n llwyddiannus mewn partneriaeth â mwy nag 20 o sefydliadau a chontractwyr allanol hyd yn hyn. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys Adra, Procure Plus, Gwaith Gwynedd, Canolfan Byd Gwaith, Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru, Richmond Bright, Cyngor ar Bopeth, Hyfforddiant Gogledd Cymru, Grŵp Llandrillo Menai, GISDA, DU Construction Ltd, WF Clayton & Co Ltd, Wynne Construction, NWRC, Kickstart, Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM, Gyrfa Cymru, Môn CF, GH James Cyf, Williams Homes (Bala) a Grŵp Cynefin.