Buddsoddi yn ein cartrefi cymdeithasol ym Mangor
Rydym wedi dechrau ar waith buddsoddi ar gartrefi ar stâd fflatiau Ffordd Caernarfon, Bangor yn ogystal â Cilcoed, Penywern, Coedmawr, cyn i ni fynd ymlaen i gychwyn ar waith ar Ffordd Hendre ym Mangor er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni a safon y cartrefi.
Mae’r gwaith yn cynnwys:
- rhoi to newydd ar y tai
- insiwleiddio a rendro waliau tu allan
- gosod ffenestri newydd
- gosod gwteri newydd
- gwella llwybrau a ffensys a mwy.
Dywedodd Mathew Gosset, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Asedau yma yn Adra:
“Rydym yn deall pa mor bwysig ydi cartrefi ein cwsmeriaid. Rydym hefyd yn deall pa mor bwysig ydi ein bod yn parhau i fuddsoddi a gwario ar y tai sydd gennym yn ogystal ag adeiladu tai newydd o safon i gyfarch yr angen tai lleol.
“Un ffordd yr ydym yn cyfarch hyn ydi drwy gynnal gwaith gwella allanol y tai a chynnal gwaith mewn gwahanol ardaloedd yng Ngwynedd, fel y rhai yma yr ydym yn gweithio arnynt ym Mangor ar hyn o bryd. Rydym hefyd wedi cynnal gwaith yn Llanberis, Garndolbenmaen ac fe fyddwn yn mynd i nifer o ardaloedd eraill.
“Mae cadw’r bunt yn lleol, cyfrannu at yr economi lleol yn bwysig i ni. Dyma pam yr ydym yn gweithio gyda chontractwyr lleol sydd hefyd yn rhoi yn ôl i’n cymuned drwy ein cynllun gwerth cymdeithasol ac rydym yn falch o fod wedi penodi Novus a G H James fel ein prif gontractwyr ar y gwahanol safleoedd.”
“Mae’n waith sylweddol ar gartref a mae cwblhau gwaith fel hyn yn cymryd amser. Ond mae Adra’n gweld buddsodi arian ac amser i wneud y gwaith yma yn un o’u prif flaenoriaethau.
“Gyda phrisiau ynni yn cynyddu a chostau byw mor uchel mae Adra’n gweld y pwysau sydd ar bawb gan gynnwys eu cwsmeriaid ac felly yn deall pwysigrwydd gwneud cartrefi eu cwsmeriaid y mwyaf effeithlon â phosib”.