![Llun o'r ymweliad](https://www.adra.co.uk/wp-content/uploads/2023/03/Stad-2-1024x768.jpg)
Dod i adnabod ein cymunedau a’n tenantiaid
Roedd hi’n wych cael mynd allan yn y gymuned eto ar gyfer y diweddaraf yn ein rhaglen cerdded o amgylch ystadau.
Y tro hwn roedd y tîm Cynnwys Cymunedol yn sir Conwy ac yn ymweld â Pharc Pentywyn yn Neganwy ger Llandudno, yn ogystal â Phlas Hwylfryn ym Mhenmaenmawr.
Mae rhaglen o ymweliadau ar waith ar gyfer gweddill 2023.
Dywedodd Sion Eifion Jones, Swyddog Prosiectau Cymunedol Adra: “Mae’r teithiau stad yn gyfleoedd gwych i ddod i adnabod ein tenantiaid a’n cymunedau.
“Mae’n gyfle i’n tenantiaid dynnu sylw at unrhyw broblemau, o unrhyw eitemau sydd wedi torri yn y cartref i bryderon cymunedol. Rydym hefyd yn cynnig cyngor a chefnogaeth gan ein wardeniaid ynni, cyfleoedd ar gyfer swyddi a hyfforddi a darganfod sut y maent yn dymuno cyfathrebu â ni yn y dyfodol”.