Diwygiadau i’n Polisi Iaith
Mae diwygiadau wedi cael eu gwneud i’n Cynllun Iaith Gymraeg, a bu i hwn gael ei gymeradwyo gan Gomisiynydd y Gymraeg ar 19 Mawrth. Mae’r newidiadau yma yn adlewyrchu ein dyheadau uchelgeisiol i dyfu’r busnes ar draws gogledd a chanolbarth Cymru, gyda’r amcan o adeiladu 550 o dai dros y 3 mlynedd nesaf. Gallwch ddarllen ein cynllun iaith yma.
Bydd cefnogi a hybu’r iaith yn dal yn flaenoriaeth, gan wneud pob ymdrech i atgyfnerthu’r iaith yn ein cymunedau, a’r sector dai yn gyffredinol yng Nghymru.
Dywedodd Ffrancon Williams, ein Prif Weithredwr: “Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod ein gweithle yn leoliad gwaith sydd â diwylliant Gymreig sy’n cynnig gwasanaeth dwyieithog o safon i’n holl gwsmeriaid.
“Dros y misoedd diwethaf rydym wedi gweithio gyda swyddogion Comisiynydd y Gymraeg i ddiwygio ein Cynllun Iaith er mwyn rhoi hyblygrwydd i gefnogi ein cynllun twf sydd yn ymateb i her y Llywodraeth o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yn nherm y Llywodraeth yma. Bydd nifer sylweddol ohonynt eu hangen ar draws y Gogledd a thu hwnt er mwyn ymateb i’r galw dybryd am dai. Golyga hyn fod y cwmni yn ehangu tu hwnt i’r fro Gymraeg ac mae angen Cynllun Iaith sydd yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng ystyriaethau hyfywedd busnes ac ystyriaethau ieithyddol. Rydym fel cwmni yn gweithredu mewn marchnad gystadleuol ac felly mae angen yr hyblygrwydd hwn er mwyn ein galluogi ni i gynnal asesiad ieithyddol ar gyfer ein swyddi. Nid gwanio’r polisi iaith yw hyn, ond mater o roi hyblygrwydd ar gyfer sicrhau hyfywedd y busnes i’r dyfodol. Bydd pob swydd Cymraeg hanfodol o fewn y cwmni’n parhau felly i’r dyfodol.
“Rydym yn angerddol dros yr iaith ac wedi buddsoddi llawer o amser ac adnoddau i annog a hyfforddi ein staff i ddatblygu eu sgiliau iaith ac mae’n braf gallu adrodd fod nifer o’r swyddogion hyn, nad oedd yn meddu’r iaith, bellach yn ddysgwyr ac wedi ymdrochi yn niwylliant Cymreig y busnes ac yn parchu’r iaith.”