Cynnydd gyda datblygiad tai Prestatyn
Mae’r gwaith o adeiladu stad o dai newydd sbon ym Mhrestatyn yn mynd rhagddo’n dda, gyda rhan gyntaf y datblygiad i’w gwblhau fis nesaf.
Mae Adra, cymdeithas dai fwyaf Gogledd Cymru, yn arwain datblygiad 102 o gartrefi ar safle Fferm Plas Newydd ym Mhrestatyn. Castle Green Homes yw’r contractwyr sy’n gweithio ar y cynllun.
Bydd 46 o’r eiddo hynny at ddibenion rhent cymdeithasol, gyda’r 56 arall yn unedau rhent canolradd. Mae’r cynllun Rhent Canolradd yn cynnig cyfle i ymgeiswyr rentu cartref newydd sbon neu gartref wedi’i adnewyddu am 80% o gyfradd y farchnad. Mae’r cynllun hwn yn berffaith ar gyfer y rhai nad ydynt yn gallu fforddio rhentu yn y sector preifat neu brynwyr tro cyntaf nad ydynt eto’n gallu fforddio prynu cartref, ond sydd eisiau’r cyfle i gynilo ar gyfer blaendal i brynu cartref.
Mae’r datblygiad cyfan yn cynnwys cymysgedd o dai 2, 3 a 4 ystafell wely, yn ogystal â byngalos 2 a 4 ystafell wely.
Disgwylir i 16 eiddo gael eu cwblhau yn gynnar ym mis Ebrill, a bydd y gweddill yn cael eu cwblhau fesul cam hyd at fis Mawrth 2024.
Dywedodd Owen Bracegirdle, Uwch Reolwr Prosiect Datblygu: “Rydym yn falch iawn o weld y cynnydd sy’n cael ei wneud gyda datblygiad Fferm Plas Newydd.
“Mae cymaint o alw am dai fforddiadwy yn y rhan yma o Sir Ddinbych, sy’n adlewyrchu’r darlun cenedlaethol. Mae Adra wedi gwneud ymrwymiad cadarn yn ei Chynllun Corfforaethol i adeiladu cartrefi newydd, o ansawdd uchel a fforddiadwy y gall pobl fod yn falch ohonynt ac rydym wedi ymrwymo i barhau â’r gwaith, gyda’r nod o’i gwblhau ymhen 12 mis.”
Os oes gan unrhyw un diddordeb yn yr opsiwn rhentu canolradd, mae angen iddynt gofrestru gyda Thai Teg: www.taiteg.org.uk