Adra i ddathlu balchder yn ei chymunedau
Bydd Adra, cymdeithas dai fwyaf Gogledd Cymru yn ymuno mewn digwyddiad mawr yng Nghaernarfon yr wythnos nesaf i ddathlu’r gymuned LGBTQIA+.
Sefydlwyd Balchder Gogledd Cymru yn 2011 ac mae’r ŵyl yn dod â phobl ynghyd, yn enwedig y rhai sydd efallai’n teimlo’n ynysig mewn ardaloedd gwledig, gan greu amgylchedd cefnogol a chroesawgar. Trwy gerddoriaeth fyw, perfformiadau, a gorymdaith, nod Balchder Gogledd Cymru yw hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant, a meithrin ymdeimlad o gymuned a pherthyn i bob unigolyn.
Bydd cynrychiolwyr o Adra yn ymuno â channoedd o bobl yn y dathliadau, gan gymryd rhan yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn, 24 Mehefin.
Dywedodd Sarah Schofield, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau Adra: “Rydym yn falch iawn o fod yn ymuno â’r orymdaith a dangos ein cefnogaeth i’r gymuned LGBTQIA+ yng Ngogledd Cymru.
“Mae ein sefydliad wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb ac rydym am weithio a byw mewn cymunedau lle gall pobl deimlo’n falch a byw eu bywydau heb unrhyw fath o wahaniaethu.
“Mae digwyddiadau fel Balchder Gogledd Cymru yn wych i ddangos yr ymrwymiad a’r gefnogaeth honno mewn amgylchedd hwyliog ac edrychwn ymlaen at ymuno â phawb yn y dathliadau”.