Adra yn sicrhau cytundeb benthyciad ar gyfer prosiectau tai uchelgeisiol
Mae Adra, cymdeithas dai fwyaf Gogledd Cymru, wedi sicrhau benthyciad cysylltiedig â chynaliadwyedd gwerth £25 miliwn gan ei bartner bancio presennol NatWest a fydd yn cael ei fuddsoddi mewn adeiladu cartrefi newydd sbon a gwneud gwaith gwella effeithlonrwydd ynni ar ei stoc tai presennol.
Mae’r cyllid hwn yn rhan o fuddsoddiad £63 miliwn Adra mewn eiddo dros y 12 mis nesaf a bydd yn cynorthwyo gyda’r ymrwymiad i greu 750 o gartrefi newydd erbyn 2025.
Dywedodd Rhys Parry, Cyfarwyddwr Adnoddau Adra: “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi buddsoddiad mor sylweddol mewn adeiladu cartrefi newydd sbon ar draws Gogledd Cymru ac rydym wedi ymrwymo’n llwyr i chwarae ein rhan mewn ymdrechion i ddiwallu anghenion tai ar draws y rhanbarth.
“Mae’n wych parhau i weithio mewn partneriaeth â NatWest gan eu bod yn amlwg yn rhannu’r un gwerthoedd ag Adra ac yn gweld y cyfle gwych i weithio gyda ni i wireddu ein huchelgeisiau.
“Rydym eisoes yn darparu cartref i dros 14,000 o bobl; rydym yn cyflogi dros 340 o staff ac rydym yn cynnig amrywiaeth o dai a gweithgareddau i gefnogi a gwella bywydau ein cwsmeriaid. Mae pob ceiniog yn cael ei hail-fuddsoddi yn y busnes i helpu i ddarparu mwy o gartrefi a gwasanaethau o safon ar gyfer pobl mewn angen.
“Rydyn ni eisiau chwarae ein rhan i helpu i ddatrys yr argyfwng tai trwy ateb y galw am fwy o dai – gan greu a darparu cartrefi gwyrdd, diogel a fforddiadwy o ansawdd uchel y gall pobl fod yn falch ohonynt.
“Rydym yn sicrhau bod y buddsoddiad o fudd i gymunedau ar draws Gogledd Cymru drwy ddefnyddio contractwyr lleol ar gyfer prosiectau a defnyddio’r gadwyn gyflenwi leol i ddarparu deunyddiau lle bo modd.
“Rydym hefyd yn parhau â’n buddsoddiad parhaus yn ein stoc tai presennol, gan ganolbwyntio’n benodol ar wella effeithlonrwydd ynni. Bydd y prosiectau sylweddol sydd ar y gweill, o ran prosiectau adeiladu newydd a phrosiectau adnewyddu, yn helpu i sicrhau swyddi, yn rhoi hwb y mae mawr ei angen i’r diwydiant adeiladu ac yn galluogi pobl i fyw a gweithio’n lleol”.
Dywedodd Martin Skinner, Cyfarwyddwr Cyllid Tai, NatWest: “Mae NatWest yn gefnogwr allweddol i’r sector cymdeithasau tai yng Nghymru a’r DU ehangach gyda mwy na £14 biliwn yn cael ei fenthyg i dros 250 o gymdeithasau tai. Yn hollbwysig, rydym yn gweithio’n agos gyda chymdeithasau tai i’w helpu i ddiffinio eu strategaethau cynaliadwyedd ac mae ein tîm arbenigol yn y sector hwn wedi cefnogi llawer ohonynt gyda strwythuro eu fframweithiau llywodraethu amgylcheddol a chymdeithasol. Rydym hefyd wedi bod yn sbardun i’r Safon Adrodd ar Gynaliadwyedd ar gyfer Tai Cymdeithasol, sy’n darparu fframwaith adrodd gwirfoddol i ddarparwyr tai adrodd ar eu perfformiad ESG yn gyson ac yn dryloyw.
“Rydym felly’n falch o fod yn gweithio gydag Adra, fel cymdeithas dai fwyaf Gogledd Cymru, i helpu’r sefydliad i gyflawni ei uchelgeisiau. Mae ei ddiben o roi ei denantiaid ar flaen y gad yn ei waith yn cyd-fynd yn agos â’n gwerthoedd ein hunain i helpu pobl, busnesau a chymunedau i ffynnu ac rydym yn edrych ymlaen at roi cymorth pellach iddynt yn y dyfodol.”