Dioglewch yn eich cartref
Rydym ni yma i’ch helpu i edrych ar ôl eich cartref.
Mae sawl peth y gallwch chi ei wneud i edrych ar ôl eich cartref. Gall ein Llawlyfr Tenantiaid helpu gyda hyn.
Gweld copi o’r Llawlyfr Tenantiaid
-
Diogelwch Tân
Rydym yn cymryd eich diogelwch a diogelwch eich cartref o ddifrif ac rydym yn gweithio’n ddiflino i gynnal diogelwch tân a sicrhau eich bod yn cael eich diogelu cymaint â phosibl.
Mae larymau tân yn cael eu profi o leiaf unwaith bob 12 mis. bydd gwasanaethu nwy hefyd yn digwydd yn flynyddol a bydd systemau trydan yn cael eu harchwilio a’u hadolygu bob 5 mlynedd.
Mae’r rhan fwyaf o danau yn y cartref yn cychwyn yn ddamweiniol – a gall yr effeithiau fod yn ddinistriol. Mae larymau mwg yn rhoi rhybudd cynnar sy’n rhoi amser hanfodol i chi ddianc.
Dilynwch yr awgrymiadau hyn ar gyfer diogelwch tân:
- Gwnewch gynllun gweithredu tân fel bod pawb yn eich cartref yn gwybod sut i ddianc os oes tân.
- Cadwch yr allanfeydd o’ch cartref yn glir fel y gallwch ddianc os oes tân.
- Byddwch yn arbennig o ofalus yn y gegin – damweiniau wrth goginio sy’n gyfrifol am dros hanner y tanau mewn cartrefi – peidiwch â gadael coginio heb neb i ofalu amdano – peidiwch â choginio dan ddylanwad alcohol.
- Gwnewch yn siŵr bod sigaréts wedi’u diffodd yn iawn a pheidiwch ag ysmygu yn y gwely.
- Peidiwch â gorlwytho socedi trydan, a pheidiwch â defnyddio dyfeisiau gwefru israddol ar gyfer offer trydanol fel ffonau symudol a gliniaduron.
- Caewch bob drws cyn mynd i’r gwely – gall cau drysau ddiogelu eich llwybr dianc rhag i dân gynnau.
- Peidiwch â gadael y peiriant golchi, y peiriant sychu dillad na’r peiriant golchi llestri yn rhedeg dros nos.
Os bydd tân yn digwydd yn eich cartref – “Ewch Allan”, “Aros Allan” a “Galw Allan” – ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ac Achub.
Polisi Diogel i Aros
Mae gennym bolisi “Diogel i Aros” yn y rhan fwyaf o’n fflatiau, dylech gymryd y camau canlynol:
- pan fydd tân yn digwydd mewn fflat, dylech rybuddio eraill yn y fflat a gwneud eich ffordd allan o’r adeilad a ffonio 999
- os bydd tân yn cynnau yn yr ardal gyffredin, gwnewch eich ffordd allan o’r adeilad a ffoniwch 999
- dylai’r holl breswylwyr eraill nad ydynt yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan dân “Aros” ac aros yn eich fflatiau oni bai eich bod yn teimlo’n anniogel, wedi’ch effeithio gan y tân neu wedi’ch cyfarwyddo i adael gan y gwasanaeth tân.
Wrth adael adeilad mewn tân:
- peidiwch â stopio i gasglu eiddo personol
- peidiwch â cheisio diffodd y tân
- os oes lifft yn eich bloc peidiwch â’i ddefnyddio – cymerwch y grisiau
- peidiwch â mynd yn ôl i mewn i’r adeilad nes y cewch wybod ei fod yn ddiogel
- peidiwch â chynhyrfu
Os ydych yn byw o fewn un o’n cynlluniau, bydd Asesiad Risg Tân ar waith ac efallai y bydd mesurau diogelwch ychwanegol yn cael eu nodi, megis systemau larwm tân addas, yn cael eu profi a’u cynnal a’u cadw’n aml.
Bydd angen i ni hefyd sicrhau bod unrhyw fannau cymunedol neu risiau yn rhydd o sbwriel ac unrhyw ddeunyddiau fflamadwy eraill.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Wasanaeth Tân Gogledd Cymru
-
Gorgasglu
Mae gor-gasglu (hoarding) yn salwch o’r enw ‘Anhwylder Casglu a Chadw’.
Mae’n digwydd pan mae person yn casglu gymaint o bethau hyd y mae’n effeithio eu bywyd bob dydd a bywyd cymdeithasol.
Peryglon gor-gasglu
Mae llawer o beryglon o or-gasglu gan gynnwys:
- Perygl o dân yn y cartref
- Strwythur a lloriau’r cartref yn cael eu malu
- Pobl yn cael eu gwasgu
Cyngor i deulu a ffrindiau
Nid yw pawb sy’n casglu a chadw pethau yn sylweddoli beth maent yn ei wneud. Efallai nad ydynt yn meddwl fod y peth yn broblem. Efallai bod rhai yn gwybod ei fod yn broblem ond bod ganddynt ormod o gywilydd gofyn am help.
Syniadau sut y gallwch helpu:
- Adeiladu perthynas dda
- Dweud na fyddwch yn taflyd dim heb ddweud wrthynt
- Gosod targedau bychan, 10 – 20 munud y dydd o dacluso
- Mae diogelwch yn holl bwysig – dechreuwch dacluso’r cyntedd neu ddrysau sydd wedi eu blocio
- Rhowch bethau i siop elusen yn hytrach na thaflyd bob dim
Pobl all eich helpu
Cysylltwch efo ni i drafod y ffordd ymlaen gyda’n Tîm Bro.
Gall rhain fod yn ddefnyddiol i chi hefyd:
-
Pobl ddiethr yn glaw draw
Yn anffodus mae mwy a mwy o bobl yn ceisio ein twyllo o gwmpas y dyddiau yma.
Dyma ychydig o tips defnyddiol i chi eu cofio i amddiffyn eich hun rhag cael eich twyllo.
- byddwch yn wyliadwrus so oes rhywun nad ydych chi’n ei nabod yn galw heibio yn anisgwyl
- cofiwch y bydd galwyr dilys yn fodlon aros – gofynnwch i gael gweld cerdyn adnabod
- defnyddiwch gadwyn drws neu far wrth siarad gydag ymwelwyr annisgwyl
- eich cartref chi ydio – nid oes rhaid i chi eu gadael i mewn!
- os oes gennych amheuaeth, cadwch nw allan. Ffoniwch 999 os ydych yn amheus neu os ydy’r sawl sy’n galw yn gwrthod gadael
- Ffoniwch 101, rhif di-frys yr Heddlu, os nad ydych mewn perygl uniongyrchol ond eich bod yn awyddus i roi gwybod iddynt am y digwyddiad.
-
Diogelwch Trydanol
Mae cwmni Whirpool yn galw peiriannau golchi Hotpint a Indesit cafodd eu creu rhwng 2014 a 2018 yn ôl.
Mae nam ar y clo ar y drws sydd yn golygu y gallent or boethi wrth gael eu defnyddio a mynd ar dân.
Mae mwy o wybodaeth ar wefan Electrical Safety First
Cyngor
Sicrhewch eich bod yn tynnu sylw at broblemau trydanol cyn gynted ag y byddant yn ymddangos, yn ogystal â chynnal a chadw unrhyw eitemau trydanol y byddwch yn dod â nhw i’r tŷ.
Byddwn yn:
- trefnu i adroddiad gael ei gynnal yn cadarnhau bod y gosodiad trydanol wedi’i asesu a’i fod yn ddiogel i’w ddefnyddio, yn unol â safonau diogelwch llym. Bydd hyn yn cael ei wneud bob 5 mlynedd
- gofyn am ardystiad yn cadarnhau bod unrhyw waith trydanol diweddar yn bodloni safonau cyfredol Llywodraeth Cymru.
Bydd ein peirianwyr yn gwirio’r gwifrau a’r bwrdd ffiwsiau yn eich cartref a sampl gynrychioliadol o ffitiadau trydanol eich cartref fel eich switshis golau a socedi plwg. Mae hyn yn unol â safonau Llywodraeth Cymru.
Mae’n gyfraith i ni gynnal y gwiriadau hyn bob pum mlynedd, sy’n golygu y bydd angen mynediad arnom. Helpwch ni i ddiogelu eich diogelwch drwy fod adref pan fydd apwyntiad yn cael ei wneud a gadewch i ni fwrw ymlaen â’r gwiriadau diogelwch.
Os oes angen i chi newid apwyntiad profi trydanol presennol, ffoniwch 0300 123 8084.
-
Diogelwch Nwy
Ein cyfrifoldeb cyfreithiol ni yw cynnal gwasanaeth nwy blynyddol ac am sicrhau bod pibellau a ffliwiau yn eich cartref yn ddiogel, yn ogystal â boeleri ac offer nwy.
Mae’r gwiriadau yma yn cael eu cynnal unwaith y flwyddyn gan beiriannydd cymwysedig sydd wedi cofrestru gyda Gas Safe.
I wneud hyn, rhaid i chi ein gadael fewn i’ch cartref.
Mae er eich diogelwch eich hun a diogelwch eraill o’ch cwmpas. Os byddwn yn methu â chael mynediad o fewn 21 diwrnod i’r apwyntiad cyntaf neu os byddwch yn gwrthod mynediad i ni, byddwn yn cymryd camau cyfreithiol.
Os oes gennych gyflenwad nwy allanol, yn dilyn sawl ymgais aflwyddiannus i gael mynediad bydd eich cyflenwad nwy yn cael ei gapio. Er mwyn eich iechyd a’ch lles mae angen i ni osgoi hyn rhag digwydd.
Os ydych chi’n arogli nwy, gwnewch yn siŵr eich bod chi:
- agor pob drws a ffenestr
- diffoddwch y cyflenwad nwy wrth y falf rheoli mesurydd (os ydych yn gwybod ble mae) a pheidiwch â chynnau unrhyw offer trydanol na chynnau fflam noeth
- ffoniwch Rif Argyfwng Nwy’r Grid Cenedlaethol ar 0800 111 999.
-
Asbestos
Mae asbestos yn bresennol yn y rhan fwyaf o dai ac ni ddylech boeni am hyn. Os caiff ei adael mewn cyflwr da ac nad yw’n peri risg, yna ni fyddwn bob amser yn cael gwared arno.
Rydym yn cynnal arolygon rheoli risg asbestos i helpu i’ch diogelu chi a’ch eiddo.
Mae rhai ardaloedd yn eich cartref lle gallech ddod o hyd i asbestos yn cynnwys:
- cwteri a phibellau dŵr glaw
- blancedi tân
- haenau gweadog fel Artex
- toeau garej a siediau
- leinin ar gyfer waliau, nenfydau a drysau
- paneli inswleiddio mewn rhai gwresogyddion storio
- paneli bath
- ffliwiau gwres canolog
- pacio asbestos rhydd rhwng lloriau ac mewn waliau pared
- teils llawr.
Er mwyn atal rhyddhau ffibrau asbestos yn eich cartref ni ddylech wneud unrhyw waith DIY cyn cysylltu â ni i gael caniatâd a chyngor. Gallai unrhyw waith fel sandio neu ddrilio sy’n tarfu ar waliau, lloriau, drysau, nenfydau, toeon ryddhau ffibrau asbestos i’ch cartref. Os bydd unrhyw ddeunyddiau asbestos (neu ddeunyddiau yr ydych yn amau eu bod yn asbestos) yn cael eu difrodi, yna cysylltwch â ni ar unwaith
Os oes disgwyl i chi wneud gwaith gwella yn eich cartref efallai y byddwn yn cysylltu â chi i drefnu Arolwg Asbestos ehangach lle byddwn yn cymryd rhai samplau.
Unwaith eto, os oes angen i ni gael mynediad i’ch eiddo, mae’n bwysig sicrhau eich bod ar gael.
-
Hylendid Dŵr a Legionella
Mae legionella yn facteria sydd i’w gael yn y rhan fwyaf o systemau dŵr ac mae’n ddiniwed.
Fodd bynnag, gall ddod yn beryglus mewn dŵr llonydd rhwng 20 a 45 gradd a gall achosi i bobl fynd yn sâl.
Rydym am i chi aros yn ddiogel a byddwn yn:
Cynnal asesiadau risg mewn ardaloedd cymunedol sy’n cael eu hadolygu’n flynyddol neu os bydd amgylchiadau’n newid megis newidiadau i’r system ddŵr
- Cynllunio risgiau, lle y gallwn, trwy welliannau wedi’u rhaglennu i systemau dŵr
- Clorineiddio’r systemau dŵr cymunedol yn flynyddol yn unol â’r asesiadau risg ar gyfer yr adeilad
- Gwneud gwaith atgyweirio a chynnal a chadw i gynnal tymereddau diogel mewn systemau dŵr a systemau cymunedol
Er mwyn lleihau’r risg o haint os na ddefnyddiwyd allfa ers 7 diwrnod neu fwy, fe’ch cynghorir i:
- Rhedwch y tapiau dŵr poeth am o leiaf 60 eiliad
- Golchwch pennau cawodydd am o leiaf 60 eiliad.
-
Lifft ac Offer Codi i'r Anabl
Cydymffurfio â Rheoliadau Gweithrediadau Codi ac Offer Codi 1998 (LOLER) a gofynion Gwasanaethu
Darperir offer addasu yn unigryw i unigolyn yn seiliedig ar asesiad Therapydd Galwedigaethol (OT) i bennu newidiadau i’r cartref i weddu i anghenion preswylydd.
Mae enghreifftiau o Offer Codi yn cynnwys,
- Lifft Grisiau
- Teclyn codi
- Trwy Lifft Llawr
- Lifft Teithwyr
- Lifft Llwyfan
- Baddonau/ Byrddau Arbenigol
Os oes gennych Offer Codi yn eich cartref neu fel rhan o gynllun rydych yn byw ynddo, bydd y canlynol yn berthnasol:
Gofynion Gwasanaeth a Mynediad:
Fel gyda phob offer mecanyddol, mae’n bwysig bod eich offer yn cael ei gynnal a’i gadw fel y gall barhau i ddarparu ar gyfer eich anghenion.
Bydd ein contractwr gwasanaethu lifft domestig penodedig yn ymweld â’ch cartref bob chwe mis neu’n flynyddol yn dibynnu ar yr offer i gyflawni gwasanaeth.
Yn ogystal â gwasanaethu arferol, bydd archwiliadau LOLER yn cael eu cynnal gan berson cymwys ac nid y contractwr gwasanaethu. Cynhelir arolygiadau LOLER bob 6 mis i fodloni safonau diogelwch rheoleiddiol.
Crynnodeb
- bydd gennych un contractwr yn gwasanaethu eich offer codi
- contractwr arall yn cynnal archwiliad trylwyr bob 6 mis.
- yn anffodus, nid yw’r ddau gontractwr yn gallu bod yn bresennol ar yr un dyddiad.
Mae mynediad yn Hanfodol. Mae’n bwysig eich bod yn caniatáu mynediad ar gyfer yr ymweliadau hyn gan eu bod yn sicrhau bod eich offer yn ddiogel i chi ei ddefnyddio’n barhaus.