Amlygu gwaith buddsoddi yn ystod taith Adra o amgylch y safleoedd
Mae cymunedau yng Ngwynedd yn elwa o fuddsoddiad parhaus Cymdeithas Tai Adra i gynnal a chadw eu stoc bresennol o dai.
Ymwelodd cynrychiolwyr o Adra a’i Bwrdd â nifer o leoliadau ar draws y sir yn ddiweddar i weld cynnydd ar nifer o gynlluniau gwella sydd eisoes ar waith.
Ymwelodd y ddirprwyaeth â safleoedd yn:
- Maes Padarn, Llanberis
- Coed Mawr/ Penywern a Thoronnenyn
- Fflatiau ar Ffordd Caernarfon, (Bangor i gyd)
- Fflatiau Llanbeblig yng Nghaernarfon
Lle gwelsant waith yn mynd rhagddo i osod ffenestri, toeau, gwaith tir newydd ac inswleiddio waliau allanol.
Buont hefyd yn ymweld â Gwelfor yn Rhosgadfan lle mae 14 eiddo yn gosod paneli solar gyda batri a thechnoleg gwresogi isgoch o’r enw ‘nexgen’.
Dywedodd Mathew Gosset, Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Asedau: “Mae gennym raglen uchelgeisiol o waith ar y gweill i wella ansawdd ein cartrefi ar draws Gogledd Cymru. Adlewyrchir y buddsoddiad hwnnw yn ein Cynllun Corfforaethol ac rydym am i bobl fyw mewn cartrefi lle gallant deimlo’n ddiogel, yn ogystal â chael eiddo sy’n defnyddio ynni’n effeithlon.
“Roeddem yn falch iawn o gael tywys Aelodau’r Bwrdd o amgylch rhai o’n prosiectau buddsoddi presennol. Gallent weld drostynt eu hunain sut mae ein gwaith nid yn unig yn amgylcheddol gyfeillgar ond hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar gyllid pobl trwy leihau biliau ynni”.
Nodyn i Olygyddion: Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Cyfathrebu, ar 0300 123 8084