Hwb datgarboneiddio yn cael sylw mewn cynhadledd genedlaethol
Cafodd hwb datgarboneiddio sylweddol – y cyntaf o’i fath yn y DU – sylw sylweddol mewn cynhadledd sector tai fawreddog a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ddoe (dydd Mercher).
Cynhaliwyd One Big Conference gan Cartrefi Cymunedol Cymru yn Techniquest ym Mae Caerdydd ac roedd cynrychiolwyr o Gymdeithas Tai Adra, Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor yno i hyrwyddo’r hwb arloesol o’r enw Tŷ Gwyrddfai sydd ar flaen y gad o ran datgarboneiddio yng Ngogledd Orllewin Cymru.
Mae Tŷ Gwyrddfai wedi ei ddatblygu ar hen safle ffatri Northwood a gaeodd ei ddrysau dair blynedd yn ôl gan golli bron i 100 o swyddi gweithgynhyrchu. Bydd y datblygiad yn trawsnewid y safle yn hwb datgarboneiddio a fydd yn sicrhau bod Gogledd Orllewin Cymru yn flaenllaw yn yr agenda datgarboneiddio, gan weithio gyda chymunedau a busnesau i ôl-osod miloedd o gartrefi dros y 10 mlynedd nesaf.
Mae’r datblygiad wedi elwa ar £736,000 gan Lywodraeth Cymru, sef cyfuniad arloesol o gymorth drwy Raglenni Trawsnewid Trefi a’r Economi Gylchol. Mae’r cyllid wedi galluogi’r gwaith o ddarparu gofod swyddfa, derbynfa newydd a gosod Podiau Hyfforddi.
Mae Tŷ Gwyrddfai hefyd wedi derbyn £500,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU.
Bydd Grŵp Llandrillo Menai yn cyflwyno sgiliau datgarboneiddio ac adeiladu wedi’u teilwra i bobl ifanc ac aelodau presennol y gweithlu adeiladu, yn enwedig mewn meysydd fel inswleiddio waliau allanol, gosod a gwasanaethu paneli solar, pympiau gwres ffynhonnell aer a storfeydd batris.
Trwy gyfranogiad Prifysgol Bangor, bydd Tŷ Gwyrddfai hefyd yn hyrwyddo arloesi mewn cynhyrchion, deunyddiau a thechnoleg newydd i gefnogi datgarboneiddio ac addasu i newid yn yr hinsawdd a bydd “Labordy Byw” yn cael ei sefydlu i brofi a threialu technoleg a deunyddiau newydd sy’n cyd-fynd â’r agenda datgarboneiddio.
Mae Tŷ Gwyrddfai eisoes yn gartref i brif swyddfa Trwsio, contractwr mewnol Adra sy’n cyflogi dros 150 o staff.
Mae Travis Perkins hefyd wedi sefydlu depo ar y safle i ddarparu deunyddiau a chyflenwadau i Adra a’i gontractwyr.
Dywedodd Mathew Gosset, Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Asedau o fewn Adra: “Mae yna waith arloesol go iawn yn digwydd yn Nhŷ Gwyrddfai. Rydym yn falch iawn o’r datblygiad hyd yn hyn ac mae’n wych ein bod wedi gallu rhannu ein profiadau gyda chynulleidfa fawr lawr yn y gynhadledd yng Nghaerdydd.
“Mae’n ddatblygiad cyffrous a bydd diddordeb mawr yn y cyfleuster, gyda nifer o unigolion o Lywodraeth Cymru wedi ymweld â’r safle, yn ogystal ag awdurdodau lleol a busnesau yn dymuno dysgu mwy neu ddod yn rhan o’r datblygiad.
“Bydd y datblygiad yn arwain at weithlu mwy cymwys a medrus, a fydd yn cefnogi’r sector adeiladu lleol ac yn sicrhau bod unrhyw werth a gynhyrchir drwy ddatgarboneiddio a buddsoddiad cyfalaf a fydd ynghlwm â hynny yn cael ei gadw’n lleol.
Bydd hefyd yn cyfrannu at leihau allyriadau carbon yn ein cartrefi, a fydd yn ei dro yn lleihau effaith costau tanwydd ac ynni cynyddol trwy wneud ein cartrefi yn fwy ynni-effeithlon a gwella ansawdd bywyd ein tenantiaid.
Dywedodd Rhianwen Edwards, Cyfarwyddwr Dysgu Masnachol a Seiliedig ar Waith: “Mae Tŷ Gwyrddfai yn enghraifft ryfeddol o’n cydweithrediad agos ag Adra, gan amlygu gallu Canolfan Seilwaith, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) Busnes@LlandrilloMenai i gyflwyno sgiliau a hyfforddiant hanfodol i’r gadwyn gyflenwi gyfan.
“Ein gweledigaeth ar gyfer y cyfleuster hwn yw integreiddio’r hyfforddiant arbenigol mewn technolegau lleihau carbon, sydd eisoes yn cael ei gynnig yn CIST, i galon diwydiant a’r gymuned. Bydd hyn yn hybu twf sgiliau a gwybodaeth o fewn y gweithlu, gan hwyluso mabwysiadu eang o dechnolegau ac arferion lleihau carbon ac ôl-osod.
“Mae Tŷ Gwyrddfai yn cynnig cyfle cyffrous i fusnesau a chwmnïau lleol arwain y gwaith o symud tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.”
Ychwanegodd Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor y Gymraeg, ymgysylltiad dinesig a phartneriaethau strategol ym Mhrifysgol Bangor: “Mae’r cyd-weithio sy’n digwydd yn Nhŷ Gwyrddfai yn darparu ffordd werthfawr i’r Brifysgol drosi ei hymchwil cynaliadwyedd yn gymwysiadau byd go iawn ac yn rhoi ymchwil a datblygu o safon fyd-eang Prifysgol Bangor wrth galon yr agenda datgarboneiddio lleol a rhanbarthol.
“Bydd y Labordy Byw yn helpu i brofi a datblygu cynnyrch i ôl-ffitio a datgarboneiddio stoc tai nid yn unig ar gyfer gwaith Adra, ond ar draws y sector.”