Cyngor Gwynedd yn cyd-weithio ag Adra i ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy i bobl Gwynedd
Mae Cyngor Gwynedd yn falch o gyhoeddi ei fod yn cyd-weithio ag Adra ar gynllun Prynu i Osod y Cyngor i ddarparu mwy o dai fforddiadwy i drigolion y Sir.
Ers 2021, mae’r Cyngor wedi bod yn prynu ac uwchraddio tai i’w gosod i bobl leol trwy’r cynllun Prynu i Osod. Mae’r cynllun hwn yn rhan allweddol o Gynllun Gweithredu Tai gwerth £140 miliwn y Cyngor, sy’n anelu at fynd i’r afael â phrinder tai’r Sir a sicrhau bod gan drigolion Gwynedd fynediad at dai fforddiadwy, o safon, yn eu cymunedau eu hunain.
Bwriad y cynllun Prynu i Osod yw prynu 100 eiddo i’w gosod i bobl leol dros chwe blynedd y Cynllun Gweithredu Tai. Ar hyn o bryd, mae 20 eiddo wedi eu prynu gan y Cyngor, gyda pump arall yn y broses o gwblhau, sy’n golygu bod y Cyngor ar y trywydd iawn i gyrraedd ei dargedau. Ar ben hynny, mae nifer o’r tai hyn mewn ardaloedd lle mae llawer iawn o bobl leol yn cael trafferth dod o hyd i dai fforddiadwy, fel cymunedau Aberdyfi, Llanberis, Porthmadog, a Phen Llŷn.
Trwy’r bartneriaeth hon, bydd Adra yn cymryd y rôl o reoli’r eiddo ar ran Cyngor Gwynedd a thrwy hynny, bydd y ddau sefydliad yn gwneud y defnydd gorau o’u harbenigedd a’u hadnoddau er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng tai.
Er mwyn gwneud cais am un o’r cartrefi, mae Cyngor Gwynedd ac Adra yn pwysleisio pwysigrwydd cofrestru gyda Tai Teg mor fuan â phosib, sef y corff sy’n gweinyddu cynlluniau tai fforddiadwy’r Cyngor.
Bydd hyn yn caniatáu i unigolion cymwys wneud cais am gartrefi unwaith y byddant yn barod, yn ogystal â helpu’r Cyngor wrth gynllunio datblygiadau’r dyfodol, gan y bydd yn dangos yn lle mae’r galw am dai fforddiadwy. Mae’n bosib gwneud hyn drwy wirio meini prawf Tai Teg, ac yna cofrestru ar eu gwefan: Tai Teg | Hafan
Ynghyd â’r pryniannau hyn, mae Cynllun Gweithredu Tai’r Cyngor hefyd yn cynnwys cynlluniau i fynd i’r afael â digartrefedd, dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd, adeiladu cartrefi newydd, a chynnig benthyciadau ecwiti trwy’r Cynllun Prynu Cartref Gwynedd i helpu pobl leol i brynu cartrefi o’r farchnad agored.
Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:
“Mae’r argyfwng tai yn dal yr un mor fyw ag erioed, ac mae’r Cyngor yn parhau i weithredu’n rhagweithiol i roi cymaint â phosib o gyfleoedd i bobl Gwynedd fyw yn lleol trwy’r Cynllun Gweithredu Tai.
“Mae’r bartneriaeth newydd rhwng Cyngor Gwynedd ac Adra yn cynrychioli ein hymdrech gydweithredol i fynd i’r afael â’r argyfwng yma. Gyda’r cynllun i brynu tai preifat i’w gosod i bobl leol, mae’r cydweithrediad ymarferol yma yn golygu bod y ddau sefydliad yn dod â’u cryfderau i’r bwrdd -gan gyfuno arbenigedd i ddod o hyd i atebion go iawn i’r sefyllfa dai difrifol sy’n ein hwynebu.
“Trwy gynlluniau fel y rhain, mae’r Cyngor yn parhau i fod yn gadarn yn ei ymrwymiad i adeiladu cymunedau cryfach trwy ddarparu tai addas o safon, sy’n fforddiadwy ac sy’n gwella eu hansawdd o fywyd.”
Dywedodd Sarah Schofield, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau Adra:
“Rydym yn hynod o falch o allu cydweithio â Chyngor Gwynedd er mwyn hwyluso’r Cynllun Prynu i Osod.
“Byddwn yn defnyddio ein harbenigedd ni i reoli’r eiddo ar ran y Cyngor, yn ogystal â gallu darparu tai fforddiadwy i drigolion lleol trwy gynllun rent canolraddol Tai Teg.
“Rydym mewn argyfwng tai. Mae galw enfawr am dai fforddiadwy o safon yng Ngwynedd, sydd hefyd yn adlewyrchu’r darlun cenedlaethol. Mae hyn yn profi mai drwy weithio ar y cyd fel hyn, y mae modd datrys y broblem. Mae’n amlwg mai cydweithio yw un o’r atebion i fynd i’r afael â materion tai yng ngogledd Cymru.”
Nodiadau – Am ragor o wybodaeth am y Cynllun Prynu i Osod, ewch i: www.gwynedd.llyw.cymru/prynuIOsod