Fflatiau diogel i aros ynddynt
Arhoswch
Adeiladwyd blociau o fflatiau a fflatiau deulawr pwrpasol i’ch ammdiffyn ychydig rhag y tân. Mae hyn yn golygu bod waliau, lloriau, a drysau’n gallu dal y fflamau a mwg yn ôl am 30 i 60 munud.
Yn achos tân yn eich cartref, mae’n bwysig eich bod yn gwybod yn union pa gamau i’w cymryd mewn tân.
Tân yn eich fflat
- Ewch allan drwy’r ffordd arferol – peidiwch â defnyddio’r lifft os oes rhai wedi’u gosod.
- Peidiwch â gwastraffu amser yn gweld beth sydd wedi digwydd neu’n achub pethau gwerthfawr – cofiwch, ewch allan, arhoswch allan a chaewch y drws.
- Symudwch mor gyflym a diogel ag y gallwch i fynd allan o’r adeilad.
- Caewch y drws i arafu lledaeniad y tân a’r mwg.
- Ffoniwch 999 cyn gynted ag y mae’n ddiogel i wneud hynny.
- Ewch i’r “Man Ymgynnull Tân” dynodedig a disgwyl i’r Gwasanaeth Tân gyrraedd.
Tân mewn fflat rhywun arall
- “Arhoswch” yn eich fflat eich hun, oni bai bod eich fflat yn cael ei effeithio gan dân neu fwg.
- Nid ydych yn teimlo’n ddiogel.
Tân yn yr ardal gymunedol
Os oes tân yn cychwyn yn yr ardal gymunedol, ac rydych chi yno:
- Symudwch mor gyflym a diogel ag y gallwch i fynd allan o’r adeilad.
- Ffoniwch 999 cyn gynted ag y mae’n ddiogel i wneud hynny.
- Ewch i’r “Man Ymgynnull Tân” dynodedig a disgwyl i’r Gwasanaeth Tân gyrraedd