Gwybodaeth bwysig

Mae ein Tîm yn y Ganolfan Alwadau yn delio gyda nifer uchel o alwadau ar hyn o bryd. Ffoniwch os yw'n argyfwng yn unig. Rydym yn gwneud ein gorau i ateb eich holl alwadau cyn gynted â phosibl.
A group of Adra staff outside the Tŷ Coch office in Parc Menai.

Ymdrech tîm gwych ar daith gerdded codi arian

Bu tîm caredig o Adra yn cymryd rhan mewn taith gerdded noddedig 15 milltir yn ddiweddar – i gyd er budd elusen.

Cymerodd dros 30 o bobl ran yn y daith gerdded o Dŷ Coch (Parc Menai, Bangor) i Benygroes, trwy Gaernarfon, Dinas a’r Groeslon.

Trefnwyd y daith gerdded i godi arian i Gymdeithas Cleifion yr Arennau Ysbyty Gwynedd, elusen ddewisol Adra am y flwyddyn – er cof am ein cydweithiwr Dylan Edwin.

Dywedodd Heledd Owens, Pennaeth Cyllid Adra: “Roeddem yn falch iawn bod cymaint o gydweithwyr yn awyddus i ymuno â’r daith gerdded i godi arian at yr achos hwn sydd mor agos at ein calonnau.

“Cafodd targed o £1,000 ei osod a hyd yma rydym wedi codi £2,850 sy’n ymdrech aruthrol, felly diolch enfawr am ymdrechion codi arian pawb a’r cyfraniadau ariannol.

“Cafodd teulu Dylan eu cyffwrdd yn fawr gan ein hymdrechion ac roedd yn anrhydedd cael aelodau o’r teulu yn ymuno â ni ar y daith gerdded.

“Yr hyn oedd yn wych i’w weld oedd ysbryd tîm Adra go iawn ac er bod y daith gerdded yn mynd yn galed tuag at ddiwedd y 15 milltir, gorffennodd pawb gyda gwên”.