Swydd Ddisgrifiad Swyddog Asedau Graddedig

Teitl Swydd: Swyddog Asedau Graddedig

Atebol i: Rheolwr Asedau a Buddsodd

Yn gyfrifol am: d/b

Adran: Eiddo

Cyflog (£): Gradd 7

Y Rôl

Trosolwg

Cyfle unigryw i ymuno â chymdeithas dai sy’n tyfu mewn rôl newydd wedi ei llunio i ddarparu’r sgiliau, gwybodaeth a chymwysterau i’r ymgeisydd llwyddiannus i’w galluogi i ddatblygu i fod yn aelod tîm cymwys o fewn y tîm Rheoli Asedau yn y Gyfarwyddiaeth Eiddo.
Gweithio o dan y Rheolwr Asedau a Buddsoddi i gynorthwyo i gyflawni amcanion allweddol y mae’r tîm yn gyfrifol amdanyn nhw.

I grynhoi, bydd y Swyddog Asedau Graddedig yn cael profiad yn y canlynol;

• Gweithio gyda’r tîm rheoli Asedau i gyflawni Strategaeth Rheoli Asedau uchelgeisiol Adra, gan fonitro cyflenwi i sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei dargedu i gynyddu gwerth ac effeithlonrwydd stoc Adra, gan gynnwys cyflawni yn erbyn targedau datgarboneiddio.
• Cyfrannu at ddatblygu’r Rhaglen Wella Fawr, gan weithio’n agos gyda’r swyddogion Data i sicrhau bod y Rhaglen yn cael ei dylunio a’i darparu i gynnal cartrefi o ansawdd wrth wneud y mwyaf o gylchoedd bywyd cydran a chyflawni cyllideb y rhaglen. Adolygu cydymffurfiad y stoc dai yn erbyn Safon Ansawdd Tai Cymru.
• Adnabod stoc a gweithio ar y broses Gwerthuso Opsiynau gan ddarparu argymhellion i “Grŵp Rheoli Asedau Gweithredol” Adra mewn perthynas â chamau gweithredu i gynyddu effeithlonrwydd ac ansawdd stoc y Gymdeithas gan gynnwys gwaredu stoc.
• Rheoli a chynnal y broses o gasglu a diweddaru data yn ymwneud ag asedau sy’n cael eu cadw ar ein systemau meddalwedd rheoli data – gan gynnwys cynnal Arolygon Cartref Cyfan/Arolygon Cyflwr Stoc/Tystysgrifau Ynni Domestig.
• Cydweithio gyda’r tîm Datblygu ar drosglwyddo data eiddo sydd newydd eu hadeiladu/prynu i sicrhau bod data Asedau Adra yn cael ei gynnal ac yn gyfredol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei ddatblygu a’i fentora am 24 mis mewn rôl hyfforddai o fewn y timau amrywiol a nodir uchod gyda golwg ar symud ymlaen i rôl llawn amser o fewn yr adran, ar sail perfformiad a chwblhau’r hyfforddiant gofynnol yn llwyddiannus.

Person Specification

Cymwysterau

Gradd mewn Adeiladu, Adeiladwaith neu ddisgyblaeth tebyg H
Wedi cael addysgu i Lefel HNC NEU brofiad blaenorol mewn Adeiladu, Iechyd yr
Amgylchedd / I a D neu ddisgyblaeth debyg.
H
Cymhwyster yn ymwneud ag Iechyd a Diogelwch (NEBOSH, IOSH). H

Sgiliau

Unigolyn hyblyg a rhagweithiol sydd wirioneddol eisiau datblygu sgiliau newydd. H
Sgiliau TG o safon gan gynnwys MS office word, excel ayb. H
Parodrwydd i weithio tu allan i oriau swyddfa arferol pan fydd gofyn. H
Gallu ymdrin â’r cyhoedd, aelodau lleol a phobl broffesiynol eraill. H
Sgiliau rhyngbersonol da a’r gallu i gyfathrebu yn effeithiol ar bob lefel. H
Y gallu i weithio i safon uchel gan dalu sylw i fanylion heb oruchwyliaeth gyson. H
Trwydded yrru neu yn bwriadu cael trwydded yn fuan wedi dechrau gweithio. H
Y gallu i gyfathrebu (siarad ac ysgrifennu) yn rhugl yn Gymraeg a Saesneg H

 

Ni all unrhyw swydd ddisgrifiad ymdrin â bob dim a all godi o fewn y rôl ar adegau amrywiol.

Ermwyn cynnal gwasanaeth effeithiol, efallai y bydd gofyn i chi gyflawni unrhyw dasgau rhesymol eraill, sy’n debyg yn fras i’r rhai yn y ddogfen hon fel bydd eich Cyfarwyddwr yn pennu.