Photo of the Caernarfon Pride parade, with the Adra banner being held up.

Dathlu balchder yn ein cymunedau

Dydd Sadwrn diwethaf, fe wnaeth Adra orymdeithio i ddathlu’r gymuned LGBTQIA+ yn rhan o orymdaith Balchder Caernarfon a drefnwyd gan GISDA.

Dywedodd Richard, Swyddog Marchnata a Chyfathrebu Adra: “Braint oedd cael cymryd rhan yn yr orymdaith, a chael y cyfle i ddangos ein cefnogaeth i’r gymuned LGBTQIA+ yng ngogledd Cymru.

“Rydym ni fel sefydliad wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb ac rydym am i bawb allu gweithio a byw mewn cymunedau lle gall pobl deimlo’n falch a byw eu bywydau heb unrhyw fath o wahaniaethu.

“Mae digwyddiadau fel Balchder Caernarfon yn gyfle gwych i ddangos ein hymrwymiad a’n cefnogaeth i’r gymuned.

“Hoffwn gymryd y cyfle i longyfarch GISDA ar lwyddiant y diwrnod.”

Mi fydd Adra hefyd yn cymryd rhan yn orymdaith Balchder Gogledd Cymru yn Llangefni mewn cwpl o wythnosau.