Safon Ansawdd Tai Cymru

Beth ydi Safon Ansawdd Tai Cymru?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Safon 2023 sydd wedi ei greu i ddiweddaru tai cymdeithasol yng Nghymru mewn ffordd sy’n cyfrannu tuag at ganlyniadau cadarnhaol o ran iechyd, addysg a llesiant i denantiaid.

Mae’r buddsoddiad sydd ei angen i sicrhau bod cartrefi yn cyrraedd y Safon yn rhoi cyfle i greu a chynnal ffyniant mewn cymunedau lleol drwy greu swyddi, hyfforddiant a phrentisiaid yn y gadwyn gyflenwi.

Mae’r Safonau yn amlinellu gyda beth mae disgwyl i landlordiaid cymdeithasol gydymffurfio. Mae disgwyl i bob cartref fod o safon uchel, bod yn iach i fyw ynddynt ac yn cwrdd ag anghenion cymunedol, teuluol ac unigol tenantiaid. Mae landlordiaid cymdeithasol yn cael eu hannog i drafod gyda thenantiaid i siapio eu rhaglenni gwaith ac i ystyried adborth gan denantiaid sydd wedi byw drwy waith ar eu cartrefi er mwyn gwella sut i gynnal a chadw, diweddaru a datgarboneiddio cartrefi yn effeithlon ac effeithiol yn y dyfodol.

Mae’r Safon yn gosod y gofynion bod yr holl dai cymdeithasol yn cael eu diweddaru a’u cadw mewn cyflwr da fel bod tenantiaid cymdeithasol yn cael y cyfle i fyw mewn cartref sydd:

mewn cyflwr da.

  • yn ddiogel.
  • yn ynni effeithlon ac sy’n dda i’r amgylchedd
  • yn cynnwys cegin ac ardal gyfleustodau modern.
  • yn cynnwys ystafell ymolchi fodern.
  • yn gyfforddus ac addas ar gyfer y tenantiaid.
  • yn cynnwys gardd yn ddelfrydol.
  • yn cynnwys llefydd tu allan braf, yn ddelfrydol.

Beth yw’r dyddiadau cau?

Dyma’r prif ddyddiadau rydym yn gweithio tuag atynt:

31 Mawrth 2025:

  • Asesu cyflwr ein cartrefi i weld pa welliannau sydd angen. Bydd hyn yn cynnwys adolygu’r wybodaeth sydd gennym ac o bosib ymweld â rhai o’n cartrefi i wneud arolygiadau. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os fydd angen i ni ddod i’ch cartref chi.
  • Datblygu cynllun cynhwysfawr a chyllideb i ddiweddaru cartrefi i gyd fynd â’r safonau.
  • Ymgysylltu gyda chi i rannu ein cynlluniau, casglu eich adborth a chodi ymwybyddiaeth o’r safon sydd wedi ei hadolygu.
  • Diweddaru ein cynllun busnes i gynnwys y gwelliannau gofynnol i gydymffurfio â SATC 2023.

31 Mawrth 2027:

  • Creu Llwybr Ynni wedi ei Dargedu (Targeted Energy Pathway – TEP) yn seiliedig ar asesiadau’r cartref. Bydd y TEP yn manylu ar y camau, gwaith ac amserlen ofynnol i wneud yn fawr o effeithlonrwydd ynni eich cartref gan wneud yn siŵr ei fod yn rhoi cynhesrwydd fforddiadwy.

31 Mawrth 2030:

  • Sicrhau bod pob eiddo yn cyrraedd Tystysgrif Perfformiad Ynni (Energy Performance Certificate – EPC)  sy’n o leiaf ‘C’
  • .i gyrraedd y safon yma, rhaid i bob cartref fod wedi ei insiwleiddio’n dda, o leiaf.

31 Mawrth 2034:

  • Cydymffurfiaeth lawn gyda safonau SATC 2023

Ar hyn o bryd rydym wrthi yn adolygu’r manylion a gwerthuso faint sydd angen ei fuddsoddi i wneud yn siŵr ein bod yn cydymffurfio efo’r safonau sydd wedi eu hadolygu. Mae hyn yn cynnwys dod i wybod am unrhyw fwlch ariannu.

Bydd ein darganfyddiadau yn cael eu hadrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru.

Lle ga’i fwy o wybodaeth?

Mae’r ddogfen SATC ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 | GOV.WALES

Dogfennau