Llun o stad o dai gyda thir gwyrdd

Cyhoeddi ein hadroddiad cynaliadwyedd

Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad cynaliadwyedd diweddaraf sy’n amlygu ei bod yn perfformio yn erbyn mesurau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu a osodwyd gan Sustainability for Housing.  

Yr adroddiad hwn yw’r pedwerydd o’i fath a luniwyd gennym , a ni oedd un o’r cymdeithasau tai cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu’r Safon Adrodd ar Gynaliadwyedd ar gyfer Tai Cymdeithasol ym mis Tachwedd 2020.  

Mae’r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am ystod eang o faterion, gan gynnwys fforddiadwyedd a diogelwch cartrefi, diogelwch ac ansawdd adeiladau, sut rydym yn cefnogi tenantiaid, sut rydym yn delio â newid hinsawdd a lleihau ei allyriadau carbon a hyrwyddo’r gadwyn gyflenwi.  

Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at brosiectau partneriaeth sy’n mynd ymlaen i gefnogi cymunedau, gan gynnwys Prosiect Sero Net Gwynedd a Thŷ Gwyrddfai, y ganolfan ddatgarboneiddio ym Mhenygroes – y cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig. Mae Tŷ Gwyrddfai yn bartneriaeth rhyngom ni, Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai drwy’r Ganolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg.  

Dywedodd Rhys Parry, ein Cyfarwyddwr Adnoddau:  “Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu o ddifrif ac rydym am wneud yn siŵr ein bod yn gallu adrodd ar ein perfformiad mewn ffordd dryloyw, gyson a chymaradwy. 

 “Mae ein Cynllun Corfforaethol 2022/25 yn amlygu’r ymrwymiad i leihau’r effaith a gawn ar yr amgylchedd, ac un o’n prif flaenoriaethau yw datgarboneiddio ein cartrefi. Ategwyd hyn gan ymdrechion i leihau ein hôl troed carbon trwy chwilio am fodelau darparu amgen, cofleidio arloesedd, a gwir ddangos ein hawydd gwyrdd”.  

“Mae cael effaith hirdymor, cynaliadwy a chadarnhaol ar gymunedau a’r bobl sy’n byw ynddynt bob amser wedi bod yn flaenoriaeth i ni. Gyda dros 7,100 o eiddo yn darparu cartref sy’n addas, diogel, a fforddiadwy i dros 16,000 o bobl, rydym mewn sefyllfa amlwg i allu cael effaith gadarnhaol a dylanwad gydol oes ar fywydau a lles ein tenantiaid.  

 “Er bod yr adroddiad hwn yn caniatáu i ni ddangos i gynulleidfa ehangach o randdeiliaid a buddsoddwyr, trwy fetrigau allweddol ac astudiaethau achos, asesiadau a dadansoddiad o wir faint ein heffaith gymdeithasol ac ar yr amgylchedd ehangach, rydym hefyd yn ceisio dangos sut mae ein gweithgaredd yn gosod ein cwsmeriaid yn ganolog i bopeth a wnawn”.