Datblygiad Wynne Road Wedi’i Gwblhau

Yn dilyn eu llwyddiant o adeiladu dau dŷ ym Mro Pedr Fardd yng Ngarndolbenmaen ger Porthmadog, mae’r gweithlu trwsio o fewn Asedau a Datblygu Adra wedi cwblhau eu hail ddatblygiad – y tro yma ar Ffordd Wynne, Blaenau Ffestiniog.

Enw’r datblygiad newydd yw Llygaid y Moelwyn, ac mae’n garreg filltir bwysig yn ein hymrwymiad i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel ac am bris fforddiadwy.

Mae’r datblygiad yn cynnwys pum cartref i deuluoedd lleol, gyda thri o’r cartrefi wedi’u haddasu i ateb anghenion penodol y teuluoedd. Cefnogwydy  gwaith allanol gan y contractwr lleol, Tom James Construction Services Ltd o Flaenau Ffestiniog,

Dywedodd Steffan Evans, Rheolwr Masnachol: “Rydym wrth ein bodd o weld canlyniadau gwaith caled yma ar Ffordd Wynne. Mae’r prosiect hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel sy’n diwallu anghenion lleol, ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygiadau pellach yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Daniel Parry, Cyfarwyddwr Asedau a Datblygu: “Mae cwblhau’r datblygiad ar Ffordd Wynne yn gyflawniad gwych. Mae’r cartrefi hyn yn diwallu angen gwirioneddol ym Mlaenau Ffestiniog, ac mae cael cymaint o gysylltiadau lleol yn gysylltiedig â’r prosiect adeiladu yn ei wneud yn arbennig iawn.”

Mae’r datblygiad hefyd wedi cynnig cyfle dysgu gwerthfawr i ddisgyblion o Ysgol y Moelwyn. Cyn cwblhau’r gwaith, cafodd dros ugain o ddisgyblion blwyddyn 11 gyfle i weld y broses adeiladu o’r tu mewn, gan ddysgu am y swyddi amrywiol sydd ar gael yn y diwydiant.

Ariannwyd y prosiect yn rhannol drwy Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, drwy Raglen Ddatblygu Tai Fforddiadwy Cyngor Gwynedd, gan sicrhau bod y cartrefi newydd hyn yn diwallu anghenion presennol a’r dyfodol trigolion lleol.