Rhaglen yr Haf Ysgol Maesincla
Dros wylia’r haf rydym wedi bod yn arwain ar raglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer plant Ysgol Maesincla yng Nghaernarfon.
Roedd y gweithgareddau yn cynnwys chwaraeon, gemau rhyng-genedlaethol, gweithdy smwddis, trip i Plas Menai a thaith ar y Queen of the Sea.
Dywedodd Iwan Jones, Warden Cymunedol Adra: “Braint odd cael cymryd rhan yn y prosiect hwn. Anrhydedd oedd cael gweithio gyda’r plant drost yr haf a gweld nhw’n mwynhau. Diolch mawr i Sion, Non a phawb arall odd yn ymwneud a’r prosiect.”
Mae’r prosiect wedi cyfrannu tuag at Werth Cymdeithasol o £53,134.00.
Dywedodd Manon Gwynedd, Pennaeth Ysgol Maesincla: “Bu Clwb Haf Ysgol Maesincla yn llwyddiannus iawn eleni.
“Cafodd y plant lu o brofiadau newydd a bob un ohonynt wedi mwynhau’r gweithgareddau a drefnwyd ar eu cyfer. Mae’r rhieni wedi bod yn anfon negeseuon o ddiolch am y ddarpariaeth. Diolch i Adra a’r holl staff, yn enwedig i Non a Sion am eu gwaith caled.”
Diolch i’r holl bartneriaid am wneud y prosiect hwn yn llwyddiant.