Llun o Iwan Trefor Jones yn siarad yn y Senedd.

Prif Weithredwr yn cynnig tystiolaeth yn y Senedd

Mae ein Prif Weithredwr  wedi galw am ddull cydlynol o gefnogi busnesau bach a chanolig – asgwrn cefn cymunedau Cymraeg.

Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ddydd Mercher (16 Hydref), siaradodd Iwan Trefor Jones am yr angen i strategaeth economaidd hirdymor Cymru roi mwy o ffocws ar yr economi sylfaenol a chynnig eglurder i sectorau fel tai a datgarboneiddio.

Yr economi sylfaenol yw’r rhan o’r economi sy’n darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau sy’n hanfodol ar gyfer bywydau bob dydd pobl ac mae’n cynnwys sectorau fel adeiladu, gofal cymdeithasol ac amaethyddiaeth.

Mi gymerodd Iwan ran yn y drafodaeth gan fod cyfran helaeth o’n tenantiaid yn gyflogedig yn y sectorau a bod yr economi sylfaenol mor berthnasol i’r cymunedau rydym yn ei wasanaethu.

Dywedodd Iwan Trefor Jones: “Roedd yn anrhydedd cael rhoi tystiolaeth gerbron y Pwyllgor a rhannu barn y cwmni ar ddatblygu’r economi sylfaenol, sy’n cyflogi tua 40% o weithlu Cymru.

“Mae angen i ni gael y cydbwysedd cywir rhwng sectorau twf uchel ac uwch-dechnoleg a sectorau’r economi sylfaenol yng Nghymru. Maent i gyd yr un mor bwysig ac yn cael effaith uniongyrchol ar fywydau canran sylweddol o’r boblogaeth.

“Mae llawer iawn o waith eisoes yn digwydd ym maes tai cymdeithasol, gyda pholisïau fel yr ymgyrch am 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd a Safonau Ansawdd Tai Cymru yn cyfrannu at dwf y sector a’i gadwyni cyflenwi.

“Mae mentrau fel Tŷ Gwyrddfai, ein hwb datgarboneiddio blaenllaw ym Mhenygroes yr ydym wedi’i ddatblygu gyda’n partneriaid Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor yn enghraifft wych o gydweithio llwyddiannus rhwng y llywodraeth a buddsoddiad preifat. Rydym hefyd yn falch o’n rhaglen Academi Adra sy’n cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau a chael mynediad at gyfleoedd hyfforddi a phrentisiaeth.

“Mae yna hefyd enghreifftiau o brosiectau i gryfhau’r ymagwedd at gaffael, megis Ffrâm24 (fframwaith deunyddiau Cymru Gyfan) a rhaglen Arfor i gefnogi cadwyni cyflenwi lleol ac ymyriadau economaidd yng Nghymru wledig. Bydd y Ddeddf Caffael newydd hefyd yn canolbwyntio ar gadwyni cyflenwi lleol a chyflawni mwy o werth cymdeithasol drwy gontractau.

“Er bod llawer o fentrau i’w dathlu, mae angen mwy o eglurder a sicrwydd arnom i wneud yn siŵr bod y sectorau hyn yn parhau i weld buddsoddiad a thwf gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cyllid ar gyfer prentisiaethau, hyfforddiant a chymorth i fusnesau bach a chanolig sy’n gweithio yn y sector. Byddai hyn, yn ei dro, yn helpu cymunedau ledled Cymru i ffynnu”.