Prosiect adnewyddiadau uchelgeisiol yn gwella ansawdd bywyd tenantiaid

Mae Adra yn falch o gyhoeddi prosiect sylweddol sy’n cynnwys gosod paneli solar a unedau storio batri ar gartrefi yn ne Gwynedd.

Mae’r prosiect yn cynnwys 19 eiddo wedi eu lleoli yng Nghorris, Aberangell, Aberllefenni, a Dinas Mawddwy. Mae’r prosiect hwn wedi cael ei gynorthwyo gan £500,000 yn ychwanegol o gyllid trwy grant Rhaglen Ôl-osod Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau adnewyddadwy. Mae’r gwaith yn cynnwys gosod paneli solar a storio, ynghyd ag ail-doi, gosod ffenestri a drysau. Bydd inswleiddio waliau allanol hefyd yn cael ei ychwanegu, ynghyd â gwelliannau i siediau, llwybrau a ffensys.

Penodwyd GH James fel y contractwr, gan sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau i safon uchel. Bydd y gosodiadau hyn yn gwella effeithlonrwydd ynni’r cartrefi ac yn helpu tenantiaid i wneud  arbedion ar eu biliau ynni.

Yn ystod ymweliad diweddar â Dinas Mawddwy, rhoddodd Mrs Davies, un o denantiaid Adra ganmoliaeth i’r gwaith adnewyddiadau a wnaed ar ei byngalo. Roedd yn arbennig o falch o’r paneli solar, gan wybod y byddai’n arwain at arbedion sylweddol yn y tymor hir.

Dywedodd Mrs Davies: “Rwy’n gwerthfawrogi’r manteision tymor hir y paneli solar, gan wybod bod fy nghartref yn fwy ynni effeithlon ac y bydd fy miliau trydan yn is,” meddai wrth ddiolch i Adra a GH James am eu hymdrechion.

Aeth Raymond Hughes, Swyddog Cyswllt Tenantiaid gydag Adra, i ymweld â Mrs Davies i sicrhau bod y gwaith wedi’i gwblhau i safon uchel. Dywedodd: “Rydym yn gweithio’n agos gyda’n tenantiaid i sicrhau bod y gwaith adnewyddu nid yn unig yn gwella ansawdd y tai ond hefyd yn gwella bywydau pobl. Mae’r gwaith yn enghraifft o’n hymrwymiad i greu cartrefi sy’n fwy diogel ac yn fwy cynaliadwy.

Mi esboniodd Elin Huws, Syrfëwr Eiddo gydag Adra, y manteision tymor hir o welliannau effeithlonrwydd ynni fel y paneli solar i denantiaid: “Fel syrfëwr eiddo, rydym bob amser yn ystyried y buddion tymor hir i’n tenantiaid. Mae gosod paneli solar nid yn unig yn helpu i leihau biliau ynni, ond hefyd yn creu cartrefi sy’n fwy gwydn ac yn gyfeillgar i’r amgylchedd. Mae’r prosiect hwn yn cyfrannu at ein nod o wneud tai Adra yn fwy cynaliadwy dros amser.”

Ar ôl yr ymweliad, aeth Raymond ac Elin gyda Mrs Davies i Ysgol Bro Idris, lle cyflwynodd GH James roddion fel rhan o’u hymrwymiad gwerth cymdeithasol i’r gymuned.

Dywedodd Llinos Bracegirdle, Cydlynydd Gwerth Cymdeithasol Adra: “Hoffem estyn ein diolch i GH James am eu cyfraniad hael o anrhegion i Ysgol Bro Idris fel rhan o’u hymrwymiad gwerth cymdeithasol i’r gymuned. Hefyd, roedd yn braf derbyn yr adborth cadarnhaol gan Mrs Davies yn Lawnt y Plas ynghylch ei phrofiad yn ystod yr adnewyddiadau ar ei byngalo. Rydym yn canmol gwaith eithriadol GH James a’r tîm asedau am eu gwaith caled yn ystod y cyfnod hwn.”