Llun o stad newydd Cae'r Gors yn Nhregarth gyda'r arwydd yn y blaen.

Gwaith wedi ei gwblhau ar ddatblygiad tai newydd yn Nhregarth

Rydym wedi cwblhau’r gwaith o ddatblygu 12 o gartrefi modern yn Nhregarth.

Y contractwr ar gyfer y datblygiad oedd Maclennan Construction Ltd.

Llun o'r awyr o'r 12 cartref newydd.

Mae’r datblygiad yn cynnwys cymysgedd o dai rhent canolraddol a rhent cymdeithasol, ac yn gymysgedd o dai dwy a tair ystafell wely ar gyfer trigolion lleol, gyda’r preswylwyr cyntaf yn symud i yn yr wythnos yma.

Enw ar y stad newydd yw Cae’r Gors, yn unol â dymuniad y Cyngor Cymuned Leol.

Llun o un o'r cartrefi newydd gyda phaneli solar a phwmp ffynhonnell aer.

Dywedodd Elliw Owen, Uwch Reolwr Prosiect Datblygu Adra: “Rydym yn hynod o falch o allu darparu cartrefi o safon i bobl leol, mae cymaint o alw am dai fforddiadwy yn ardal, sy’n adlewyrchu’r darlun cenedlaethol.

“Mae’r holl dai ar y datblygiad wedi cael ei adeiladu i safon ragorol gyda thystysgrif perfformiad egni (EPC) o A, gyda phaneli solar ac yn cael eu gwresogi gyda Phympiau Gwres Ffynhonnell Aer.

“Hoffwn hefyd ddiolch i Maclennan Contruction Ltd nid yn unig am adeiladu’r tai ond hefyd am gydlynu’r gwaith o sefydlu gardd wyllt yn Ysgol Tregarth fel rhan o’u hymrwymiad gwerth cymdeithasol.”

Dywedodd llefarydd ar ran Maclennan Construction Ltd.: “Mae wedi bod yn fraint adeiladu’r cartrefi o safon yma ac i ddod i adnabod cymuned Tregarth, dymunwn bob hapusrwydd i’r holl drigolion yn eu cartrefi newydd.”

Llun o'r cartrefi newydd gyda golygfa o gefn gwald yn y cefndir.