Datblygiad Bro Infryn wedi ei gwblhau

Yn dilyn eu llwyddiant o gwblhau dau ddatblygiad yng Ngarndolbenmaen a Blaenau Ffestiniog, mae’r gweithlu Trwsio o fewn tîm Asedau a Datblygu Adra wedi cwblhau eu trydydd ddatblygiad – y tro yma yn Bro Infryn, Glasinfryn.

Mae’r datblygiad yn cynnwys saith cartref i deuluoedd lleol, gyda phump o’r cartrefi ar gyfer rhent cymdeithasol a dau ar gyfer rhent canolraddol.

Cefnogwyd y gwaith gan y contractwyr lleol; John Kelly Construction Services, Lowfields Timer Frames Ltd, Dyffryn Heating, Anglesey Solar, MW Plastering, Datrys Consulting Engineers a Dewis Architecture, ynghyd a eraill.

Dywedodd Steffan Evans, Rheolwr Masnachol Adra: “Rydym wrth ein bodd o weld canlyniadau gwaith caled yma yn Bro Infryn. Mae’r prosiect hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel sy’n diwallu anghenion lleol.”

Ychwanegodd Elliw Owen, Uwch Rheolwr Prosiect Datblygu Adra: “Rydym yn hynod o falch o allu darparu cartrefi o safon i bobl leol, mae cymaint o alw am dai fforddiadwy yng Ngwynedd sy’n adlewyrchu’r darlun cenedlaethol.

“Mae’r holl dai ar y datblygiad wedi cael ei adeiladu i safon ragorol gyda thystysgrif perfformiad egni (EPC) o A, gyda phaneli solar ac yn cael eu gwresogi gyda Phympiau Gwres Ffynhonnell Aer.

Ariannwyd y prosiect yn rhannol drwy Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, drwy Raglen Ddatblygu Tai Fforddiadwy Cyngor Gwynedd, gan sicrhau bod y cartrefi newydd hyn yn diwallu anghenion presennol a’r dyfodol trigolion lleol.

Tîm Twsio