Tâl Gwasanaeth
Mae pob tenant yn talu tâl gwasanaeth gyda’u rhent.
Faint o dâl gwasanaeth sy’n rhaid ei dalu
Nid yw pawb yn talu’r un faint.
Mae faint rydych yn ei dalu yn dibynnu ar faint o wasanaethau rydych yn eu cael.
Bydd pawb yn cael llythyr ym mis Chwefror/ Mawrth yn dweud faint sy’n rhaid ei dalu am y flwyddyn nesaf.
-
Manteision o dalu Tâl Gwasanaeth
Mae llawer o fanteision i chi fel tenant wrth dalu tâl gwasanaeth:
- gwasanaethau sy’n cael eu rhannu yn cael eu hariannu yn gywir
- gallu dangos gwerth am arian
- system yn decach, ni fyddwch yn talu am wasanaethau sydd ddim yn cael eu cynnig i chi
- byddwch yn deall pa wasanaethau ychwanegol sy’n cael eu cynnig i chi a faint sydd rhaid talu
- bydd yn haws i chi gadw llygaid a herio gwasanaethau rydych yn eu cael
-
Gwahaniaeth rhwng tâl gwasanaeth a rhent
Mae rhent yn cynnwys costau:
- gwaith trwsio
- yswiriant
- cynnal a chadw’r adeilad
- rheolaeth tai sy’n cynnwys gwaith papur o’r dechrau i’r diwedd
Mae tâl gwasanaeth yn cynnwys costau:
- costau staff fel Gofalwyr a Rheolwyr Safle
- ardaloedd cymunedol
- camerâu diogelwch
- lifft
- system agor drws electronig
- rheoli stad
- diogelwch tân mewn ardaloedd Cymunedol
-
Sut ydym yn cyfrifo tâl gwasanaeth
- byddwn yn amcangyfrif cyfanswm costau ar gyfer gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu
- bydd y tâl yn cynnwys ychydig o gostau swyddfa
- byddwn yn rhannu’r gost rhwng yr holl gartrefi sy’n elwa o’r gwasanaeth
Os fyddwch wedi talu gormod erbyn diwedd y flwyddyn, byddwch yn talu llai o dâl gwasanaeth y flwyddyn nesaf.
Os na fyddwch wedi talu digon erbyn diwedd y flwyddyn, bydd yn rhaid i chi dalu mwy o dâl gwasanaeth y flwyddyn nesaf.
-
Poeni nad ydych am allu fforddio tâl gwasanaeth
Os ydych yn cael trafferthion ariannol, cysylltwch efo ni, gallwn ni eich helpu.
Efallai byddai’n well gennych siarad gyda Cyngor am Bopeth neu Shelter, gall y rhain eich helpu chi hefyd.
-
Budd-daliadau Tai neu Gredyd Cynhwysol
Bydd eich budd-daliadau neu gredyd cynhwysol yn talu am rai tal gwasanaeth. Yr Adran Gwaith a Phensiynau sydd yn dewis pa rai.
Tâl Gwasanaeth sy’n cael eu talu
- Ardaloedd Cymunedol, cynnal a chadw, meysydd parcio a mannau agored
- Cynnal a chadw tu mewn i lefydd Cymunedol (coridorau ac ystafelloedd)
- Goleuadau argyfwng tu mewn a thu allan i’r ardaloedd Cymunedol
- Costau gwresogi ardaloedd Cymunedol
- Glanhau ffenestri tu allan i ardaloedd Cymunedol
- Paentio ardaloedd Cymunedol a phrynu adnoddau
- Materion Iechyd a Diogelwch ardaloedd Cymunedol
- Cynnal a chadw, glanhau a thrwsio lifft Cymunedol
- Cynnal a chadw a thrwsio system mynediad drws
- Cynnal a chadw a thrwsio erial teledu, cebl neu loeren (free-to-view yn unig)
- Cynnal a chadw a thrwsio TCC
- Costau rheolwyr safle neu ofalwyr
Taliadau Gwasanaeth sydd ddim yn cael eu talu
- Cyfleusterau golchi dillad cymunedol
- Gwresogi fflatiau unigol
- Costau dŵr
- Trwsio neu newid nwyddau gwynion
-
Beth i’w wneud os ydych yn cael Budd-dal Tai / Elfennau Tai (Credyd Cynhwysol) yn barod
Bydd angen i denantiaid sy’n cael budd-dal tai ddangos prawf o’r tâl gwasanaeth newydd i’r Awdurdod Lleol.
Byddwn ni hefyd yn dweud wrth yr Awdurdod Lleol am y newid.
Bydd angen i denantiaid sy’n cael Elfen Tai (Credyd Cynhwysol) ddangos prawf o’r taliad newydd i’r Ganolfan waith lleol. Efallai y bydd hyn yn newid yn fuan pan fydd gennych fynediad i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol personol.
-
Anhapus gyda faint o dâl gwasanaeth rydych yn ei dalu
Cysylltwch efo ni os nad ydych yn hapus efo safon y gwasanaeth rydych yn ei gael neu gyda’r gost.
Rydym yn hapus i weithio gyda chi i ddatrys unrhyw broblemau.
- Mae gennych hawl o fewn 6 mis o gael eich llythyr tâl gwasanaeth i ofyn am gael gweld datganiad tâl gwasanaeth. Gallwch yna weld sut mae costau wedi eu cyfrifo.
- Mae tâl gwasanaeth ar rai addasiadau i’ch cartref. Darllenwch fwy amdanynt ar ein tudalen addasiadau