Storm, sea waves hitting the rocks.

Storm Éowyn: Gwyntoedd cryfion a glaw trwm

Rydym yn disgwyl gwyntoedd cryfion a glaw trwm dros y dyddiau nesaf o ganlyniad i Storm Éowyn, sy’n debygol o darfu ar rannau o ogledd Cymru.

Mae’n bwysig eich bod yn cadw’n ddiogel yn ystod y storm, dyma rai awgrymiadau i gadw’n ddiogel a’ch helpu i baratoi ar gyfer y tywydd garw:

Y tu mewn:

  • Paratowch pecyn toriad pŵer. Mae’r pecyn yn cynnwys tortsh, radio, matsys, canhwyllau a rhestr o rifau ffon defnyddiol
  • Caewch bob drws a ffenestri
  • Oes gennych chi ddigon o drydan a nwy yn eich mesurydd os na allwch chi fynd allan oherwydd y tywydd garw?
  • Cadw ychydig o fwyd annarfodus yn y cwpwrdd fel bwydydd tin a llefrith UHT
  • Ceisiwch aros y tu mewn cymaint â phosib. Os oes angen i chi fynd allan, byddwch yn ofalus o amgylch adeiladau a choed

Tu allan:

  • Gwnewch siŵr fod eitemau fel trampolinau, biniau a dodrefn gardd wedi cael eu diogelu
  • Os ydych yn gyrru, arafwch a chadwch bellter diogel oddi wrth gerbydau eraill
  • Cymerwch olwg ar y llechi to. Oes ‘na rhai wedi cracio neu’n rhydd ac angen eu newid? Os gwelwch broblem, cysylltwch gyda’n Canolfan Gyswllt ar 0300 123 8084

Bydd ein Canolfan Alwadau ar agor  tan 5pm heddiw (Dydd Gwener 24/01/25).

Os oes gennych chi argyfwng y tu allan i’r oriau hyn neu dros y penwythnos, ffoniwch ein tîm y tu allan i oriau ar 0300 123 8084.

Nodwch, oherwydd tywydd garw, efallai y bydd ein hamseroedd ymateb yn arafach nag arfer.

Gofynnwn yn garedig i chi fod yn ymwybodol o gymdogion bregus yn ystod y cyfnod hwn.

Arhoswch yn ddiogel a chymerwch ofal.