Adra yn ailsefydlu ei Hyfforddiant Cyfraith Rheolaeth Tai

Gyda dros 30 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector dai, mae Mari Pritchard wedi ysgrifennu am ail gychwyn yr hyfforddiant hanfodol yma.  

Dyma Mari, yn ei geiriau hi: 

Fel Rheolwr Datblygu Busnes yn Adra, dwi’n hapus i rannu’r daith gyffrous o ailsefydlu ein Hyfforddiant Cyfraith Rheoli Tai fel rhan o’r Rhaglen Hyfforddi Corfforaethol. Ganwyd y fenter hon o weledigaeth a chefnogaeth ein rheolwyr a’r Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau  Sarah Schofield, gyda’r nod o gyflawni sawl amcan allweddol: 

  • Gwella gwybodaeth a sgiliau ein swyddogion mewn rheolaeth tai a’r fframwaith cyfreithiol. 
  • Hyrwyddo datblygiad proffesiynol parhaus ein swyddogion tai. 
  • Codi statws proffesiynol ein swyddogion tai yn Adra. 
  • Sicrhau bod yr hyfforddiant yn bwrpasol ac yn berthnasol i Adra, gan gyd-fynd â’n polisïau a’n prosesau, ac yn caniatáu i’n swyddogion ddefnyddio’r sgiliau yn eu swyddi. 

Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, sydd wedi bod yn weithredol ers mis Rhagfyr 2022, wedi dod â newidiadau sylweddol i’r gyfraith tai. Yn dilyn gwaith helaeth i weithredu’r Ddeddf, roedd yn amserol i ddiweddaru ein gwybodaeth am gyfraith tai ar gyfer ein gwaith o ddydd i ddydd a’r heriau mewn rheoli tai ar draws -gosodiadau, gwasanaethau tenantiaeth, rhent ac incwm, gwasanaethau bro, a thrwsio.  

Cytunodd ein Rheolwr Cynorthwyol Dysgu a Datblygu, Gary Williams, â’r amcanion uchod, a darparodd Adnoddau Dynol y gyllideb ar gyfer yr hyfforddiant. Trefnodd Adnoddau Dynol y gwahoddiadau, y lleoliad, holiaduron adborth ar ôl pob sesiwn a thystysgrifau presenoldeb.  

Yn 2024, trafodwyd gyda darparwyr amrywiol a chytunwyd i fynd gyda chynnig Blake Morgan. Mae Siân Jones, partner yn Blake Morgan, yn arbenigo mewn achosion cyfreithiol eiddo a dadleuon landlord a thenant preswyl, gyda phrofiad helaeth yn y sector tai cymdeithasol ac wedi gweithio gyda Adra yn y gorffennol wrth baratoi ar gyfer gweithredu Rhentu Cartrefi.  

‘Roedd yn wych bod yn rhan o Hyfforddiant Rheolaeth Tai Adra. Roedd pawb yn cymryd rhan yn y sesiynau rhyngweithiol gan ganolbwyntio ar sut y gall Adra ddarparu gwasanaethau gorau i’w tenantiaid. Dwi’n gobeithio bod y tîm wedi gweld budd yn yr hyfforddiant.’ – Siân D Jones, Partner yn Blake Morgan. 

Diolch i Ellena Thomas-Jones o’r tîm Datblygu Busnes am gynorthwyo drwy gydlynu’r hyfforddiant a rhannu’r holl ddogfennau perthnasol gyda Blake Morgan a sicrhau bod popeth yn mynd yn esmwyth ar y diwrnod! Cynhaliwyd yr hyfforddiant dros bedwar dyddiad ym mis Ionawr, gyda phob sesiwn yn para 2 -2.5 awr. Datblygais y rhaglen a’r cynnwys mewn ymgynghoriad â Dona Griffiths o’n tîm cyfreithiol mewnol. Dyma flas o bob sesiwn; 

  • Sesiwn 1: Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Chyflawniadau Gwaharddedig / Gweithdrefnau gorfodi a meddiannu 
  • Sesiwn 2: Olyniaeth / Cyfnewid / trosglwyddiadau eraill (e.e., is-osod, deiliaid contract ar y cyd – tynnu’n ôl,) 
  • Sesiwn 3: Dyled Rhent – Gweithdrefnau gorfodi a meddiannu 
  • Sesiwn 4: Gadael / Materion dyrannu a therfynu contract 
  • Sesiwn 5: Hawliadau Anfanteision & materion FFHH (trosolwg ar gyfer staff rheng flaen) 
  • Sesiwn 6: Hawliadau Anfanteision a materion FFHH (mewn manylder)  

Mynychodd staff o wasanaethau perthnasol cyfarwyddiaeth C&C, tîm Cyfreithiol, a Gwasanaethau Eiddo. Mynychodd y tîm Datblygu Busnes (Mari, Tamany, Steph ac Ellena) y sesiynau i nodi unrhyw gamau dilynol a dysgu o’r sesiynau hyfforddiant a allai olygu fod angen adolygu a/neu ddiwygio unrhyw un o’n polisïau a’n prosesau cyfredol. Diolch i Tamany am gydlynu’r dasg hon. Bydd Tamany yn gweithio gyda’r gwasanaethau perthnasol yn Adra i sicrhau bod hyn yn cael ei gwblhau.  

‘Roedd yr hyfforddiant hwn yn ddefnyddiol iawn. Roedd Sian, yr hyfforddwr yn amlwg yn gwybod ei phethau trwy esbonio pwnc cymhleth mewn ffordd a oedd yn hawdd ei ddeall.’ Adborth a ddarparwyd ar ddiwedd y cwrs.  

Rydym yn bwriadu cynnal yr Hyfforddiant Cyfraith Rheoli Tai bob 2-3 blynedd o hyn ymlaen. Byddwn yn asesu adborth staff i helpu i lunio sesiynau’r dyfodol. Mae’r hyfforddiant yma yn cefnogi ac yn gymorth i ni gyflawni ein Strategaeth Gwna Wahaniaeth.  Amcan y Strategaeth yma ydi i newid ac atgyfnerthu diwylliant mewnol y cwmni mewn modd cadarnhaol i’n cynorthwyo i ni gyflawni ein blaenoriaetha ac i wynebu heriau fydd yn dod i’n rhan yn y blynyddoedd nesaf.  

Un o’r ffrydiau o dan ambarél y gwaith hwn yw’r ffrwd ‘reoli talent’. Amcanion y ffrwd waith hon yw:  

  • Datblygu’r gweithlu a rheolwyr  
  • Rheoli talent a chynllunio olyniaeth 
  • Newid diwylliant a gallu rheoli newid 
  • Gwaith tîm o safon, rhannu syniadau ac arferion da 
  • Sgiliau am oes, datblygu llwybrau sgiliau 

Yn bersonol, rwy’n hynod falch o fod wedi bod yn rhan o ailsefydlu’r Hyfforddiant Cyfraith Rheoli Tai yn Adra, gan weithio ar y cyd â Dysgu a Datblygu, Adnoddau Dynol, a Blake Morgan i drefnu’r hyfforddiant a sicrhau bod swyddogion Adra yn gallu diweddaru eu gwybodaeth mewn cyfraith tai a chael hyder i weithredu yn y maes cymhleth hwn sy’n esblygu’n gyson.