
Rhoi bywyd newydd i hen offer
Mae offer nad oedd y cwmni yn ei ddefnyddio mwyach wedi cael ei gyflwyno i bedwar elusen lleol fel rhan o brosiect partneriaeth.
Roedd ein gweithlu Trwsio a’n tîm Cymunedol yn awyddus i wneud rhywbeth gyda’r holl offer a oedd wedi casglu dros y blynyddoedd nad oedd yn cael eu defnyddio mwyach.
Roedd y tîm Cymunedol mewn cysylltiad â Menter Môn ac eisoes yn gweithio gyda nhw ar eu Prosiect Economi Gylchol, ac roedd hyn yn cyd-fynd yn berffaith!
Cafodd pedwar grŵp a menter eu hadnabod a fyddai’n hapus iawn i’w derbyn, sef Partneriaeth Ogwen ym Methesda, Yr Orsaf ym Mhenygroes, Seren yn Ffestiniog ac Antur Waunfawr.
Bydd Partneriaeth Ogwen ac Yr Orsaf yn eu cynnig yn eu ‘Llyfrgell o Bethau’, lle bydd yr offer ar gael i’w llogi i unrhyw un yn y gymuned – bydd hyn yn arbed pobl rhag gorfod prynu’r offer eu hunain. Bydd Seren ac Antur Waunfawr yn eu defnyddio yn eu gweithdai eu hunain.
Dywedodd Llinos Bracegirdle, ein Cydgysylltydd Gwerth Cymdeithasol: “Dw i’n falch iawn ein bod wedi gallu rhoi y rhodd enfawr yma o offer yn ôl i mewn i’n cymunedau a chefnogi ein mentrau cymdeithasol.
“Bydd y prosiect yma yn cefnogi llyfrgelloedd offer lleol, gan ganiatáu i unigolion fanteisio ar logi’r offer hyn, ond hefyd yn cyfrannu at yr economi gylchol trwy roi bywyd newydd i’r offer hyn.”