
Amlygu ein cyfraniad i ddadl genedlaethol mewn adroddiad
Rydym yn falch iawn bod ei chyfraniad i ymchwiliad cenedlaethol i’r economi sylfaenol yng Nghymru wedi’i gydnabod mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau, 17 Ebrill).
Cynhaliodd Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd yr ymchwiliad a gwahodd sefydliadau o wahanol sectorau i ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig ac wyneb yn wyneb. Clywodd y sesiynau enghreifftiau o arfer gorau gan sefydliadau ac adborth ar bolisi a dull Llywodraeth Cymru o ddatblygu’r economi.
Yn ystod y sesiwn, siaradodd Iwan Trefor Jones, ein Prif Weithredwr am yr angen i’r strategaeth economaidd hirdymor i Gymru roi mwy o ffocws ar yr economi sylfaenol a chynnig eglurder i sectorau fel tai a datgarboneiddio.
Amlygwyd gwaith Tŷ Gwyrddfai, y ganolfan ddatgarboneiddio flaenllaw a sefydlwyd gennym mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor yn ystod y sesiwn dystiolaeth. Mae’r adroddiad a gyhoeddir heddiw yn cydnabod bod yr hwb “yn uwch-sgilio’r gadwyn gyflenwi leol gan gynnwys tîm atgyweirio a chynnal a chadw mewnol ein cwmni gyda’r sgiliau gwyrdd diweddaraf, gan gefnogi rhaglenni ôl-osod gan lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig”. Mae’r adroddiad yn amlygu bod dros 800 o grefftwyr wedi’u hyfforddi yn y ganolfan.
Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu ymrwymiad Adra i gynaliadwyedd drwy fentrau fel Ffrâm24, fframwaith Cymru gyfan ar gyfer cyflenwi deunyddiau adeiladu a chynhyrchion cysylltiedig. Mae’r fenter hon yn cefnogi economïau lleol, gyda 79.5% o gyflenwyr wedi’u lleoli yng Nghymru.
Mae Academi Adra, menter a sefydlwyd i ddarparu cyfleoedd sgiliau, cyflogaeth a hyfforddiant i denantiaid hefyd wedi’u hamlygu yn yr adroddiad. Ers ei sefydlu yn 2022, mae dros 150 o gyfleoedd hyfforddi wedi’u hariannu, 50 o leoliadau gwaith wedi’u darparu a dros 30 o swyddi wedi’u creu hyd yma.
Menter arall sydd wedi’i chynnwys yn yr adroddiad yw Tendra, prosiect a ariennir gan Arfor i gefnogi busnesau lleol i wneud cais am gontractau, yn ogystal â chynnig hyfforddiant ar gaffael, gwerth cymdeithasol, achrediadau, iechyd a diogelwch a phrisio swyddi.
Dywedodd Iwan Trefor Jones: “Roedd yn anrhydedd cael rhoi tystiolaeth gerbron y Pwyllgor a rhannu ein barn ar ddatblygu’r economi sylfaenol, sy’n cyflogi tua 40% o weithlu Cymru.
“Yn ystod y sesiwn, galwais am ddull cydlynol o gefnogi busnesau bach a chanolig – asgwrn cefn cymunedau Cymraeg. Mae angen inni sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng sectorau twf uchel ac uwch-dechnoleg a sectorau’r economi sylfaenol yng Nghymru. Maent i gyd yr un mor bwysig ac yn cael effaith uniongyrchol ar fywydau canran sylweddol o’r boblogaeth.
“Mae llawer iawn o waith eisoes yn digwydd ym maes tai cymdeithasol, gyda pholisïau fel yr ymgyrch am 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd a Safonau Ansawdd Tai Cymru yn cyfrannu at dwf y sector a’i gadwyni cyflenwi.
“Mae mentrau fel Tŷ Gwyrddfai, ein hwb datgarboneiddio blaenllaw ym Mhenygroes yr ydym wedi’i ddatblygu gyda’n partneriaid Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor yn enghraifft wych o gydweithio llwyddiannus rhwng y llywodraeth a buddsoddiad preifat. Rydym hefyd yn falch o’n rhaglen Academi Adra sy’n cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau a chael mynediad at gyfleoedd hyfforddiant a phrentisiaeth”.