Marwolaeth Tenant
Mae colli rhywun agos yn ddigon anodd fel y mae, mwy na thebyg bydd poeni beth sydd am ddigwydd i’r cartref yn chwarae rhan yn hyn.
Gobeithio bydd y wybodaeth yma yn eich helpu yn ystod y cyfnod anodd yma.
Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni pan fydd deiliad contract (tenant) yn ein gadael cyn gynted â phosibl. Rhowch alwad i ni a gofynnwch am siarad â’r ‘tîm profedigaeth’, a fydd yn gallu helpu.
Os oedd deiliad y contract (tenant) yn byw ar ei ben ei hun, a’ch bod eisiau trafod dychwelyd y goriadau ac ati, rhowch alwad i ni. I gael rhywfaint o wybodaeth i’ch helpu gyda’r broses o ddod â chontract meddiannaeth (tenantiaeth) i ben pan fydd deiliad contract (tenant) yn marw, gweler ein Taflen Gwybodaeth Profedigaeth
Fodd bynnag, yn aml pan fydd deiliad contract (tenant) yn ein gadael, bydd aelodau eraill o’r teulu parhau i fyw yn y cartref. Mewn achosion fel hyn, efallai bydd gan yr aelod o’r teulu hawl i ‘olyniaeth’
Olyniaeth yw’r broses o gymryd drosodd contract, ar ôl i ddeiliad gwreiddiol y contract ein gadael.
-
Pwy sydd gan hawl i Olynu?
-
Rwyf yn ddeiliad contract ar y cyd. Allai olynu'r contract?
-
Oes modd i fwy nag un person olynu?
-
Sut mae gwneud cais?
-
Mae gen i'r hawl i olyniaeth. Ydy hyn yn golygu y galla i aros i fyw lle ydw i?
-
Beth os nad oes gen i'r hawl i olynu'r denantiaeth? Fydda i'n gorfod symud allan?