Cefnogaeth i chi
Beth yw’r Gwasanaeth Cefnogi Tenantiaid?
Mae ein gwasanaeth Cefnogi Tenantiaid yn cynnig cefnogaeth i denantiaid bregus sydd mewn angen.
Rydym am helpu unigolion i gynnal eu tenantiaeth drwy ddatblygu eu sgiliau bywyd.
Mae’r gwasanaeth yma yn cael ei ariannu gan Llywodraeth Cymru drwy raglen Cefnogi Pobl.
Gall ein Swyddog Cefnogi Tenantiaid gynnig help gyda:
- cyngor ar gyllidebu a thrin arian
- cefnogaeth i gynnal a chadw’r cartref
- cefnogaeth i datblygu sgiliau gofynnol i alluogi unigolion gynnal eu tenantiaeth
- cefnogaeth i datblygu sgiliau bywyd
- cymorth i ddeall hawliau a chyfrifoldebau
- arweiniad a gwybodaeth ar gyfleoedd cyflogaeth, addysg a hyfforddiant
- cymorth i gwblhau ffurflenni a cheisiadau, hawlio budd-dal
- mynediad i asiantaethau priodol
Pwy all derbyn help
• tenantiaid gyda phroblemau dyledion
• tenantiaid newydd sydd angen help
• tenantiaid sy’n dioddef o broblemau iechyd
Cysylltwch â ni os ydych eisiau help
Amcan y cynllun yw gwneud yn siŵr fod tenantiaid yn cael eu trin efo urddas a pharch, ac yn cael annibynniaeth, dewis a rheolaeth dros eu bywydau.