Byw mewn fflat
Mewn fflat neu fflatiau deulawr efallai y bydd gennych gymdogion uwch eich pen, o dan eich fflat ac bob ochr i chi felly mae’n bwysig ystyried eich cymdogion I gyd tra’n byw mewn fflat.
-
Niwsans sŵn
Gall sŵn achosi llawer o ffraeo rhwng tenantiaid.
Ni fyddwn yn caniatau I denantiaid roi llawr laminet mewn fflatiau, heblaw fflatiau ar y llawr gwaelod gan fod sŵn yn cario.
Synau eraill sydd ddim yn dderbyniol yw:
- chwarae cerddoriaeth yn uchel
- gwrando ar y radio yn uchel
- gwylio’r teledu yn uchel
- refio ceir
- cau drysau yn glep
- gweiddi yn y cyntedd a grisiau, yn enwedig yn y nos
- sŵn o waith DIY (mae angen caniatâd i wneud gwaith DIY)
Os es gennych broblem gyda’ch cymydog yn achosi sŵn y peth cyntaf I’w wneud yw siarad gyda nhw. Efallai and ydynt yn sylwi eu bod yn achosi problem – felly byddwch yn gyfeillgar a pheidio gwylltio.
Os na fydd hyn yn datrys y broblem cysylltwch â ni:
- ffôn: 0300 123 8084
- e-bost: ymholiadau@ccgwynedd.org.uk
- ffurlen ar-lein
Os ydych yn achosi niwsans sŵn i’ch cymdogion byddwch yn torri amodau eich cytundeb tenantiaeth.
Efallai byddwch yn torri’r gyfraith hefyd.
-
Mannau Cyffredin
Mae pawb sy’n byw mewn bloc o fflatiau yn gyfrifol o, gadw’r mannau cyffredin yn daclus a glân.
Mae hyn yn cynnwys:- corridorau
- cynteddau
- grisiau
- ben y grisiau
Mae pob man cyffredin yn cael eu harchwilio yn rheolaidd.
Bydd disgwyl I chi gadw beiciau, pram ac ati yn eich fflat a ddim yn y manau cyffredin. Os bydd eitemau fel hyn yn cael eu gadael mewn llefydd cyffredin byddwn yn trefnu eu bod yn cael eu symud.
-
Anifeiliaid Anwes
Os ydych chi’n berchen ar anifal anwes rhaid I chi wneud yn siwr nad yw unrhyw un o’ch anifeiliaid yn achosi niwsans i’ch cymdogion.
Mae cyngor pellach am gadw anifeiliaid anwes I’w gael ar ein tudalen Anifeilaid Anwes
-
Diogelwch
Mae system mynediad yn y mwyafrif o fflatiau fel mai dim ond tenantiaid a’u hymwelwyr sy’n gallu dod i mewn.
I helpu gadw’r fflatiau yn ddiogel peidiwch â:
- rhoi rhywbeth yn y drws i’w gadw yn agored (hyn yn cynnwys drysau tân mewnol)
- gadael y drws yn agored
- gofyn I gymdogion adael ymwelwyr i mewn i chi
- gadael rhywun and ydych yn adnabod I mewn i’r adeilad