Swyddi Gwag
Rydym yn darparu tai o safon yng ngogledd Cymru ac rydym yn cynnig cyfleoedd gyrfa i bobl sydd eisiau datblygu gyrfa ym myd tai mewn amgylchedd ddwyieithog.
Trwy weithio i ni gallwch wneud gwahaniaeth mawr i fywydau nifer o bobl yn eich cymuned.
Rydym yn cynnig opsiynau i weithio’n hyblyg ar gyfer nifer o swyddi, sydd yn golygu y gallwch gyfuno gweithio o gartref yn ogystal ag yn ein swyddfeydd.
Gwneud cais am swydd ar-lein Ffurflen Gais Ysgrifennedig Ffurflen Cyfle Cyfartal
Nid ydym yn recriwtio ar hyn o bryd, ond cadwch lygad allan yn y flwyddyn newydd am gyfleoedd.
Cyfleoedd Academi Adra
Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
-
Cwrs Adeiladwaith
Ydych chi dros 16 mlwydd oed ac yn chwilio am brofiad o fewn y maes adeiladwaith?
Mae cwrs poblogaidd Academi Adra yn ôl.
Dim ond ychydig o lefydd sydd ar gael – felly cyntaf i’r felin
- Cwrs yn cychwyn dydd Llun, 04/11/24
- Lleoliad: Tŷ Gwyrddfai, Penygroes
Ffurflen Gais Sgiliau Adeiladwaith
Mae’r cwrs yn cychwyn ar ddydd Llun, 04/11/24 am bythefnos yn Nhŷ Gwyrddfai, Penygroes, LL54 6DB.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch hefo ni ar:
- Ffôn – 0300 123 8084 gofynnwch am Ceri Ellis-Jackson
- e-bost: academi@adra.co.uk
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 25/10/24 5pm
Rydym yn annog ceisiadau gan ferched, ein tenantiaid a grwpiau lleiafrifol sydd ar hyn o bryd yn cael eu tan-gynrychioli yn ein gweithlu.
Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr Swyddi
Os hoffech dderbyn diweddariadau pryd bynnag y bydd erthygl newydd yn cael ei phostio neu swydd newydd yn cael ei hysbysebu – Tanysgrifiwch isod.