Creu ardal chwarae newydd i Ysgol Hafod Lon
Mae ardal chwarae newydd wedi cael ei adeiladu yn rhad ag am ddim yn Ysgol Hafod Lon fel rhan o fudd cymunedol cytundeb Brenig Construction, sy’n adeiladu stad o dai ar ran cymdeithas dai Adra ym Mhenrhyndeudraeth.
Cafodd yr ‘ardal ysgol fforest’ ei adeiladu gan weithwyr o gwmni Bernig Construction a gwirfoddolwyr o Adra dros hanner tymor, gyda’r deunyddiau i gyd yn cael eu rhoi am ddim gan y cwmni o Gonwy.
Dywedodd Ffrancon Williams, Prif Weithredwr Adra: “Mae’n grêt gweld ein contractwyr yn rhoi rhywbeth nôl i’r gymuned, rydym bob amser yn ceisio sicrhau trwy ein prosesau caffael bod cymunedau yn gweld buddion ehangach na darparu tai i’n gwaith.
“Ar yr achlysur yma mae Brenig wedi mynd tu hwnt i’n gofynion ac wedi cyfrannu oriau o lafur a gwerth miloedd o ddeunydd i greu ardal braf i blant Ysgol Hafod Lon. Dw i’n ei llongyfarch ar hyn ac yn falch iawn o beth maent wedi’i gyflawni.”
Roedd y gwaith yn cynnwys; clirio darn o dir, adeiladu ramp i sicrhau mynediad cadair olwyn, creu canopi, adeiladu pwll tywod ac ardal i wneud tân. Yn ogystal â hyn cafodd dodrefn tu allan i’r ardd eu cyfrannu gan y cwmni (dwy fainc a bwrdd picnic), a darn o dir ei glirio i wneud lle i ardd synhwyrol fydd yn cael ei adeiladu a chynllunio gan y disgyblion yn y dyfodol.
Dywedodd Pennaeth Ysgol Hafod Lon, Mrs Donna Roberts: “Mae’r ardal ysgol fforest sydd wedi cael ei adeiladu yn wych. Cafodd y gwaith ei wneud yn gwbl ddidrafferth dros hanner tymor ac mae’r plant yn barod yn cael budd ohono. Maent wrth eu boddau yn cael cyfle i fynd allan i’r fforest a chael profi’r holl elfennau synhwyrol sydd o’u cwmpas. Maent yn edrych ymlaen at gael tostio marshmallows a chael BBQ dros dymor yr haf. Mae’n adnodd hynod werthfawr i’r ysgol a gydag ychwanegiad y ramp mae’r ardal nawr yn hygyrch i bob unigolyn yma.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i Brenig Construction ac Adra am y buddsoddiad ariannol a’r amser maent wedi rhoi o’u gwirfodd i’w adeiladau.”
Ychwanegodd Steven Walker, Rheolwr Gweithrediadau Brenig Construction: “Rydym yn falch iawn o fedru rhoi rywbeth nôl i’r cymunedau rydym yn byw a gweithio. Mae Brenig yn gwmni sy’n integreiddio ac arloesi er mwyn ychwanegu gwerth i gadwynau cyflenwi tra hefyd yn sicrhau ein bod yn cyflawni’n prosiectau’n llwyddiannus.
“Hoffwn ddiolch hefyd i gwmni T D Plant Hire am roi menthyg y peiriannau yn rhad am ddim i ni gael cyflawni’r gwaith.”
Mae’r budd cymunedol hwn yn deillio o gytundeb gwerth £772,000 i adeiladu 6 tŷ ym Meysydd Llydain, Penrhyndeudraeth. Cafodd y cynllun ei gyllido gan Adra, Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.
Mae Brenig hefyd yn adeiladu tri thŷ preifat ar y safle i’w prynu ar y farchnad agored.
Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu un o’r tai cysylltwch â Brenig ar 01492 514 934 am fwy o fanylion.