Yma i wrando
Mae eich adborth fel cwsmeriaid yn bwysig iawn i ni, gan ei fod yn sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu a gwella ein gwasanaethau.
Bydd y dudalen hon yn rhoi adborth i chi ar sut rydym wedi gwrando ar eich barn ac wedi gweithredu arno.
Mae eich adborth yn bwysig iawn:
-
Cododd rhai ohonoch bryderon am y gwasanaeth glanhau. O ganlyniad, mae gennym cwmni glanhau newydd.
-
Roedd rhai ohonoch eisiau gwell cyfathrebu gennym ni yn dilyn archwiliadau yn eich cartref. Rydym wedi gwneud newidiadau a byddwch yn cael adborth uniongyrchol ar ôl yr arolygiadau.
-
Fe wnaethoch chi hefyd ofyn am fwy o wybodaeth am ble mae eich arian rhent yn mynd.
Ble mae eich arian rhent yn mynd
-
Mae £22.36 yn mynd ar atgyweirio a chynnal a chadw eich eiddo.
-
Mae £39.12 yn mynd ar y rhaglen fuddsoddi – adnewyddu ceginau newydd, toeau, ffenestri ac ati.
-
£8.94 ar reoli asedau, fel paratoi ar gyfer gwaith buddsoddi, rheoli draenio ac ati.
-
£15.37 ar reolaeth Adra ar gyfer gwasanaethau i gefnogi tenantiaid.
-
£12.58 ar gostau landlordiaid – casglu rhent, gosod cartrefi, gwasanaethau cymdogaeth a gwasanaethau cynghori.
-
£13.41 tuag at gostau talu benthyciadau fel rhan o’n buddsoddiad o £121 miliwn i ddod â chartrefi i Safonau Ansawdd Tai Cymru.
Dywedoch chi:
Nid oeddech yn gwbl ymwybodol o ba waith fydd yn digwydd yn eich cartref ar ôl archwiliad.
Ein ymateb ni:
Byddwn yn cyflwyno blwch llofnodi ar waelod taflenni archwiliad i wneud yn siwr fod ein cwsmeriaid yn deallt yn iawn pa waith fydd yn cael ei wneud/ ddim ei wneud a phryd. Rydym wrthi yn ymchwilio i gyflwyno system negeseuon testyn fydd yn cael eu hanfon allan yn awtomatig i gadarnhau pryd fydd ein archwilwyr ar eu ffordd draw i fynychu apwyntiadau. Y gobaith ydy y bydd hyn yn rhoi gwell syniad o faint o’r gloch fydd ein staff yn cyrraedd cartrefi ein tenantiaid.
Dywedoch chi:
Roedd ein cyfathrebu yn wan yn ystod gwahanol gynlluniau
Ein ymateb ni:
Byddwn yn cynnal archwiliad mewnol i edrych ar daith y cwsmer a’r gyfathrebu gyda cwsmeriaid ar gynlluniau gwahanol i weld lle allwn wella.
Dywedoch chi:
Roedd ein cyfathrebu yn wan yn ystod y broses gosod.
Ein ymateb ni:
Rydym yn defnyddio gwasanaeth neges testyn i ddiweddaru tenantiaid ar eu ceisiadau.
Rydym wedi cyflwyno ymweliadau rhithiol o’n cartrefi yn ystod y cyfnod clo fel ein bod yn gallu parahau i osod cartrefi ac i roi cyfle i ddarpar denatnaid weld cartrefi. Er gwaethaf yr oedi yn gosod tai o ganlyniad i’r pandemig roedd 90% o gwsmeriaid yn teimlo einbod wedi delio gyda’r broses gosod tai yn sydun ac yn effeithlon.
Dywedoch chi:
Nid oedd digon yn cael ei wneud wrth rhoi gwybod i ni am broblemau sŵn
Ein ymateb ni:
Rydym wedi cyflwyno app sŵn sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn. Rydym wedi gweld lleihad yn y nifer o achosion ble mae angen i aelod o’r Tîm wneud ymweliad. Mae’r app sŵn yn cael ei ddefnyddio mewn materion diogelu a trais yn y cartref ac mae modd anfon linc i’r Heddlu.