Academi Adra

Mae Academi Adra yn dod a’r nifer o gyfleoedd y gallwn eu darparu drwy Adra a’n partneriaid i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau a dod o hyd i waith.

Os ydych yn bwriadu gwneud rhai newidiadau yn eich llwybr gyrfa gallwn eich cefnogi.

Gallai hyn fod trwy eich helpu chi chwilio am gyfleoedd:

  • cyflogaeth
  • hyfforddiant
  • magu hyder
  • gwirfoddoli

images of various academi adra courses

Pa gyfleoedd allwn ni eu cynnig?

 

Cyrsiau yn y meysydd canlynol:

  • Adeiladwaith
  • Sgiliau Gweinyddol
  • Gwasanaeth Cwsmer

Dyma’r cyfleoedd sydd ar gael gyda ni ar hyn o bryd

 

Sut mae’n gweithio?

 

Cam 1 – Cofrestrwch ar gyfer un o’n cyrsiau, lle byddwch yn cael wythnos o hyfforddiant. Mae ein cyrsiau yn cael eu cynnal yn ein swyddfeydd ym Mangor a Penygroes.

Cam 2 – Byddwch wedyn yn cael cyfle i fynd am wythnos o brofiad gwaith di-dâl hefo ni yn Adra neu hefo un o’n partneriaid.

Cam 3 – Bydd pawb sy’n cwblhau’r pythefnos yn cael cynnig i ymgeisio am leoliad gwaith taladwy. Os ydych yn  cael cyfweliad ac yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich lleoli o fewn Adra neu gydag un o’n partneriaid am eich lleoliad gwaith taladwy dros 16 wythnos.

codi sgaffold mewn cwrs academi adra

Llun gofal cwsmer

Profiad Marcus ar gwrs Adeiladwaith gyda Academi Adra

Profiad Chloe ar gwrs Gwasanaethau Cwsmer gyda Academi Adra

Sut i gael cefnogaeth

Cysylltwch ag aelod o’n tîm i gychwyn ar eich taith trwy lenwi’r ffurflen hon neu ffoniwch 0300 123 8084.

Cymorth i gael gwaith

  • Rhowch ychydig o wybodaeth am eich sefyllfa gwaith ar hyn o bryd....
  • This field is for validation purposes and should be left unchanged.

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

SPF FUNDING LOGOS