Recruitment Fair in Msparc, Anglesey with staff from Adra and various companies present.

Adra o gwmpas mewn ffeiriau recriwtio

Bydd timau o Adra, cymdeithas dai fwyaf Gogledd Cymru, allan o gwmpas rhanbarth Gogledd Cymru dros yr wythnosau nesaf fel rhan o ymdrechion parhaus i recriwtio pobl i’r diwydiant tai ac adeiladu.

 

Bydd y tîm yn mynychu nifer o ffeiriau recriwtio i ledaenu’r gair am gyfleoedd gyrfa o fewn Adra, yn ogystal â hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael trwy fenter Academi Adra. Sefydlwyd y fenter yn 2021 i ddarparu cyfleoedd i bobl gael profiad gwaith gwerthfawr a chynyddu eu sgiliau.

 

Lle fyddwn ni

Y digwyddiadau recriwtio a fynychir yw:

  • Ffair Yrfaoedd Conwy, Parc Eirias, Bae Colwyn – Dydd Iau, 23 Mawrth (11am -4pm)
  • Storiel, Ffordd Gwynedd, Bangor – Dydd Iau, 23 Mawrth 1pm-4.30pm
  • Canolfan Gymunedol Porthmadog – 19 Ebrill (1pm-5pm)
  • Canolfan Hamdden Bro Dysynni, Tywyn – 26 Ebrill (1pm-5pm)
  • Canolfan Hamdden Y Bermo – 4 Mai (1pm-5pm)

 

Dywedodd Mair Williams, Rheolwr Adnoddau Dynol Adra: “Rydym bob amser yn chwilio am bobl sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y sectorau tai ac adeiladu. Mae cyfran sylweddol o’n staff yn gweithio yn Trwsio, ein contractwyr mewnol ond mae gennym ni hefyd bobl yn gweithio mewn pob math o broffesiynau, gan gynnwys TG, gwasanaethau cwsmeriaid, datblygu cymunedol a chyfreithiol.

“Rydym hefyd am achub ar y cyfle i hyrwyddo Academi Adra. Mae gennym enghreifftiau o bobl yn cael eu hyfforddi drwy’r rhaglen ac yna’n cnafod swyddi, felly rydym am helpu i ledaenu’r gair am yr Academi i bobl sy’n byw ar draws Gogledd Cymru wrth i ni barhau i dyfu fel sefydliad”.

 

Nodyn i Olygyddion: Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm Cyfathrebu, ar 0800 123 8084.