Adra yn atgoffa tenantiaid o derfynau amser cŵn XL Bully
Mae Cymdeithas Tai Adra yn annog ei denantiaid sy’n berchen ar gŵn XL Bully i gofrestru eu hanifeiliaid ar gyfer eithriad cyn y terfyn amser sef Ionawr 31, 2024.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yn anghyfreithlon i fod yn berchen ar XL Bully yng Nghymru a Lloegr o’r 1af Chwefror, 2024 oni bai bod gan berchnogion Dystysgrif Eithrio ar gyfer eu ci.
Gall unrhyw berchnogion sydd heb gofrestru eu cŵn cyn y dyddiad cau wynebu costau er mwyn eu cael yn ôl o genel cŵn.
Ac o Ragfyr 31ain, rhaid i bob ci XL Bully wisgo mwsel a bod ar dennyn pan maent mewn lle cyhoeddus. Ar gyfer Deiliaid Contract Adra, byddai hynny yn golygu unrhyw ardaloedd cymunedol gan gynnwys tu mewn i floc o fflatiau a gerddi/mannau agored sy’n berchen i Adra Cyf. Caiff ei argymell i berchnogion cŵn XL Bully gychwyn hyfforddi eu ci i wisgo mwsel cyn y dyddiad pan ddaw’r gofyniad i rym.
Mae’r gyfraith newydd hefyd yn cynnwys y gofynion yma:
- Os yw eich ci yn iau nag un flwydd oed ar y 31 Ionawr 2024, rhaid iddynt gael eu niwtro erbyn 31 Rhagfyr 2024
- Cael eu cadw mewn lle diogel fel na allant ddenig.
- Rhaid i berchnogion hefyd gael yswiriant atebolrwydd trydydd parti yn erbyn eu ci yn achosi niwed i bobl eraill, rhaid iddynt fod dros 16 mlwydd oed, dangos tystysgrif eithrio pan fydd yr Heddlu neu warden cŵn y Cyngor yn gofyn am hynny ar y pryd neu ymhen 5 diwrnod.
- cael yswiriant atebolrwydd trydydd parti rhag i’ch ci anafu pobl eraill (gallwch gael hwn trwy gynllun aelodaeth Dogs Trust yma: www.dogstrust.org.uk/support-us/membership)
- rhoi gwybod i’r Mynegai o Gŵn sydd wedi eu Heithrio os byddwch yn newid cyfeiriad, neu os bydd eich ci yn marw.
Mae polisïau Adra ei hun ar gadw anifeiliaid yn nodi y gellir ystyried rhoi caniatâd i gi sydd wedi’i wahardd i fyw mewn eiddo sy’n eiddo i Adra ar yr amod:
- eu bod wedi’u cynnwys ar y Mynegai o Gŵn sydd wedi eu Heithrio;
- bod y cwsmer wedi rhoi copi o’r Dystysgrif Eithrio berthnasol i Adra o fewn 5 diwrnod i Adra ofyn am un;
- nad oes gan Adra bryderon am allu’r cwsmer i ofalu am anifeiliaid a’u rheoli;
- bod y cwsmer yn cydymffurfio â deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol, a gall ddangos hyn i Adra o fewn 5 diwrnod i unrhyw gais (e.e. cadw’r ci mewn man diogel na allant ddianc ohono, cael yswiriant, niwtro’r ci, a sicrhau bod y ci yn gwisgo mwsel mewn mannau cyhoeddus.
Dywedodd Siôn Hughes, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cwsmeriaid a Chymunedau: “Rydym wedi gweithio gydag elusennau cŵn cofrestredig i godi proffil y rheoliadau ac i wneud yn siŵr bod ein tenantiaid a’r gymuned ehangach yn deall y newidiadau sy’n dod i rym.
“Nid oes gan Adra unrhyw fwriad o wahardd cŵn XL Bully na gweithredu yn erbyn tenantiaid yn seiliedig ar fod yn berchen ar gi fel hyn. Fodd bynnag, mae gennym ddyletswydd i roi gwybod i denantiaid a’u hatgoffa o’r cyfreithiau newydd sy’n dod i rym ac i sicrhau nad yw cŵn yn achosi niwsans i gymdogion.
“Gall gwneud cais am Dystysgrif Eithrio gymryd amser i’w brosesu, yn enwedig wrth i’r dyddiad cau ddod yn nes, felly rydym yn annog perchnogion i gofrestru mor fuan ag sy’n bosib.
“Efallai nad yw rhai yn siŵr os yw eu ci yn un XL Bully. Er mwyn bod yn ofalus ac i osgoi unrhyw gostau diangen, os bydd unrhyw berchennog yn credu y gall eu ci fod yn XL Bully, yna dylent gofrestru eu ci.”