Adra yn ymuno gydag Wythnos Hinsawdd Cymru gyda Hwb Datgarboneiddio Arloesol
Mae Adra yn gyffrous i gyhoeddi ei fod yn cymryd rhan yn Wythnos Hinsawdd Cymru, menter sy’n cael ei hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael gyda heriau hinsawdd brys.
Mae Adra, mewn cydweithrediad gyda phartneriaid Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai, yn arwain y ffordd gyda hwb datgarboneiddio sy’n torri tir newydd o’r enw Tŷ Gwyrddfai ym Mhenygroes, gan ddangos ei ymrwymiad i gynaliadwyedd a dyfodol gwyrddach.
Caiff ymroddiad Adra i gyfrifoldeb amgylcheddol ei amlygu drwy sefydlu’r ganolfan rhagoriaeth newydd ac arloesol yma. Gyda thros 7000 o gartrefi, mwy na 90% wedi’u hadeiladu dros 50 mlynedd yn ôl, mae Adra yn cydnabod ei fod yn bwysig ôl-osod y cartrefi yma gyda datrysiadau ynni-effeithlon i leihau biliau ynni tenantiaid a chyfrannu at nodau cenedlaethol i leihau carbon.
Gan weithio yn ddiwyd i gyflawni targedau sero net Llywodraeth Cymru, mae Adra, ar y cyd gyda’i gontractwr mewnol Trwsio a chontractwyr lleol, wedi mynd ati i ôl-osod cartrefi gyda chynnyrch arbed ynni addas. Mae’r bartneriaeth gyda Phrifysgol Bangor yn cyflwyno labordy byw o fewn yr hwb datgarboneiddio, yn rhoi gofod i brofi ac arloesi cynnyrch newydd a fydd yn chwarae rhan ganolog wrth drawsnewid cartrefi i ofodau cynaliadwy, ynni-effeithlon.
Mae cynnwys Grŵp Llandrillo Menai yn ychwanegu dimensiwn addysgiadol hanfodol i’r fenter. Bydd y coleg yn darparu hyfforddiant cynhwysfawr ar ddefnyddio technolegau newydd, yn sicrhau bod y gweithlu presennol yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i roi ar waith yn effeithiol. Mae’r ymrwymiad hwn i uwchsgilio yn cyd-fynd gyda gweledigaeth Adra o economi gylchol, meithrin talent leol a chynnal cyflogaeth o fewn y gymuned.
Mae hwb datgarboneiddio Tŷ Gwyrddfai wedi’i leoli ym Mhenygroes, ar gyrion Caernarfon mewn ffatri segur sydd wedi’i haddasu. Caeodd y ffatri yn 2020, gan arwain at golli bron i 100 o swyddi. Mae Tŷ Gwyrddfai yn awr yn hwb ganolog i Adra, gyda swyddfa, pencadlys Trwsio, a depo Travis Perkins yno. O safbwynt strategol, mae’n galluogi cydlynu a gweithredu mentrau datgarboneiddio yn effeithiol ar draws stoc dai helaeth Adra.
Dywedodd Julie Stokes-Jones, Rheolwr Busnes Tŷ Gwyrddfai
“Rydym yn falch ein bod yn flaenllaw o ran mentrau sero-net gogledd Cymru. Mae ein hymrwymiad i gynaliadwyedd yn mynd tu hwnt i ôl-osod cartrefi; mae am adnewyddu ein cymunedau a chreu dyfodol lle mae cyfrifoldeb amgylcheddol a thwf economaidd yn mynd law yn llaw.”
Mae’r ffaith bod Adra yn cymryd rhan yn Wythnos Hinsawdd Cymru yn ategu ei ymroddiad i gyfrannu yn ystyrlon i ddyfodol cynaliadwy, carbon isel. Drwy gydweithio, arloesi, ac ymgysylltu â’r gymuned, mae Adra yn gweithredu i greu gogledd Cymru gydnerth sy’n ymwybodol o faterion amgylcheddol.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â cyfathrebu@adra.co.uk