Agor y drws i ddatblygiad o fflatiau ym Mangor
Mae 38 o fflatiau newydd ar gael i’w rhentu yng nghanol dinas Bangor wedi eu cwblhau ac wedi agor eu drysau am y tro cyntaf i ddarparu cartrefi o safon i gyfarch yr angen tai lleol.
Fe gawsom agoriad swyddogol fflatiau Plas Farrar er mwyn arddangos yr adeilad sydd wedi bod yn denu llawer o sylw yng nghanol dinas Bangor.
Mae ein swyddogion wedi trefnu i ddarpar breswylwyr i ddod i weld yr adeilad yr wythnos hon er mwyn darparu cartrefi fforddiadwy.
Cafodd y fflatiau eu hagor yn swyddogol gan Gadeirydd ein Bwrdd, Hywel Eifion Jones a ddywedodd:
“Rydan ni mor falch o gael agor drysau’r datblygiad yma, Plas Farrar yng nghanol dinas Bangor er mwyn darparu cartrefi fforddiadwy i gyfarch yr angen am gartrefi i dirigolion lleol.
“Mae’r fflatiau yma ar Ffordd Deiniol, Bangor gan Adra yn gynllun deiliadaeth gymysg sy’n cynnwys tri opsiwn rhentu gan gynnwys Rhent Cymdeithasol, Rhent Canolraddol a Rhent Farchnad Agored. Mae cyfanswm o 38 o fflatiau un a dwy ystafell wely.
“Mae lleoliad y fflatiau yma yn bwysig iawn i ni. Roedden ni’n awyddus i gael lle canolog yn y ddinas, tafled carreg oddi wrth yr orsaf drenau, tafled carreg oddi wrth y Stryd Fawr er mwyn rhoi cyfle i bobl lleol gael byw yma ac i gyfranu tuag at yr economi leol.
“Drwy ddefnyddio talent leol, cyflenwyr a phartneriaid eraill, byddwn yn creu cartrefi gwell sy’n fforddiadwy a chynaliadwy ar gyfer pobl leol.”
Daeth Sian Gwenllian, Aelod Seneddol Arfon i’r digwyddiad hefyd. Dywedodd:
““Yn fy rôl fel Aelod o’r Senedd dros Arfon, mae cyfran sylweddol o waith achos yn ymwneud â thai, diffyg tai, neu drigolion sy’n byw mewn tai anaddas.
“Rwy’n ymwybodol iawn felly o’r angen dybryd sydd yn yr ardal am dai cymdeithasol o safon. Mae’r datblygiad yma o 38 anedd yn gyfraniad pwysig at yr ymdrech i ddiwallu’r angen hwnnw.
“Mae gan Blas Farrar gyfraniad arbening a phwysig iawn i’w wneud i ddinas Bangor hefyd.
“Mae cyfnod Covid wedi bod yn heriol iawn i ganol dinasoedd fel Bangor. Ond mae agosatrwydd Plas Farrar at y Stryd Fawr yn newyddion da i fusnesau lleol ac mae agosrwydd yr orsaf drenau yn mynd i fod yn gyfleus iawn i’r tirogolion.
“Diolch yn fawr iawn i Adra am y gwahoddiad i grwydro’r datblygiad newydd ac i ddweud gair i longyfarch yr holl bartneriaid am eu gwaith. Bydd yn wych gweld y fflatiau yn cael eu llenwi ac yn cyfrannu at fywyd a bwrlwm canol y ddinas.”
Wynne Construction a gafodd eu penodi gennym i adeiladu’r fflatiau yma ym Mangor.
Dywedodd Rheolwr Prosiect Wynne, Andy Lea:
“Rydym yn falch iawn o fod wedi cwblhau’r adeilad fflatiau hwn, sy’n brosiect cyntaf, gyda’n cleient Adra i helpu i roi cyfle i bobl leol rentu tai fforddiadwy.
“Gan mai hwn oedd y prosiect cymdeithas tai cyntaf i Wynne Construction gwblhau, fe wnaeth y tîm fwynhau gweithio gydag Adra yn fawr ac wynebu’r heriau a’r cyfyngiadau a ddarperir gan leoliad safle prysur yng nghanol tref Bangor. Edrychwn ymlaen at gyfleoedd pellach i bartneru â nhw yn y dyfodol.
“Galluogodd yr adeilad hwn i ni hefyd barhau â’n hymroddiad i ddyfodol y diwydiant trwy weithio gyda phrentisiaid yn ogystal â phartneriaid cadwyn gyflenwi lleol, ac rydym wrth ein bodd bod yr ymrwymiad wedi arwain at gyrraedd ein targedau hyfforddi a darparu datblygiad fflatiau o ansawdd uchel. bydd o fudd i’r rhanbarth.”
Bydd y fflatiau ar sail rhent cymdeithasol yn cael ei gosod gan Adra drwy’r Cofrestr Optiynau Tai Cyngor Gwynedd. Tra bydd angen i unigolion sydd a diddordeb yn y tai rhent canolraddol fod wedi cofrestru hefo Tai Teg. Bydd y fflatiau marchnad agored yn cael eu gosod gan Asiant Dai leol.