Ein Cynllun Corfforaethol 2025-2030
Darllen ein Cynllun Corfforaethol llawn
Gwyliwch y fideo esboniadol hwn i ddysgu mwy
Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi beth rydym am ei gyflawni erbyn 2030.
Mae’n adlewyrchu ein gweledigaeth a’n gwerthoedd, ein hegwyddorion sylfaenol, a’r gweithredoedd allweddol rydym yn dymuno eu cyflawni.
Ein Gwerthoedd
Mae ein gwerthoedd yn siapio popeth a wnawn.
Maent yn dangos ein hymrwymiad i wneud ein gorau, bod yn onest, a gofalu am ein cwsmeriaid a’n cymunedau.
Mae’r gwerthoedd hyn yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau o’r radd flaenaf a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol bob dydd.
Agored a Theg |
Uchelgeisiol |
Dibynadwy |
|
|
|
Dros y pum mlynedd nesaf rydym am ganolbwyntio ar bedwar maes blaenoriaeth:
Caiff ein cenhadaeth a’n gwerthoedd eu cefnogi gan sawl egwyddor allweddol sy’n arwain ein gwaith ac yn sicrhau ein bod yn cyflawni’r canlyniadau gorau posib ar gyfer ein cwsmeriaid a’n cymunedau.
Mae’r egwyddorion hyn wrth galon popeth yr ydym yn ei wneud
-
Gwella ein cartrefi:
Rydym yn buddsoddi yn ein cartrefi i’w gwneud yn fwy
diogel ac yn well.Erbyn 2030, byddwn yn anelu at wneud ein holl gartrefi yn ynnieffeithlon (EPC C – SAP 69).
Mae hyn yn golygu gwell insiwleiddio, ffynonellau ynni adnewyddadwy, a thechnoleg fodern i gadw cartrefi’n gyffyrddus ac effeithlon.
-
Gwneud gwahaniaeth cadarnhaol:
Rydyn ni yma i wella bywydau ein cwsmeriaid a’n cymunedau.
Byddwn yn mynd i’r afael â materion fel tlodi, problemau iechyd meddwl, ac unigrwydd drwy wrando ar ein cwsmeriaid a gweithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau i ddiwallu anghenion amrywiol.
Byddwn yn cefnogi addysg, hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i helpu pobl i gyrraedd eu llawn botensial.
Drwy weithio gyda phartneriaid lleol, byddwn yn creu llwybrau ar gyfer twf personol a phroffesiynol, gan helpu pawb i ffynnu.
-
Creu mwy o gartrefi:
Rydym yn gwybod bod yna angen am dai o safon.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd erbyn 2026, ac rydym yn awyddus i helpu drwy adeiladu mwy o gartrefi cymdeithasol a fforddiadwy.
-
Meithrin diwylliant ‘un tîm’:
Ein tîm yw ein cryfder. Byddwn yn buddsoddi yn ein staff, gan roi’r sgiliau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt.
Rydym yn annog creadigrwydd a bod yn arloesol ac yn defnyddio data i wneud penderfyniadau call, gwella ein gwasanaethau ac aros ar y blaen yn y sector tai.