Rheoleiddio

Rydym yn cael ein rheoleiddio gan Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chymdeithasau tai i sicrhau gwasanaeth o ansawdd da i gwsmeriaid; llywodraethu effeithiol a hyfywedd ariannol. 

Yn syml, maent yn edrych ar y ffordd yr ydym yn rheoli’r Gymdeithas a’n gwasanaethau.

Fel rhan o broses ‘Hunanwerthuso’ Llywodraeth Cymru:

  •  Rydym yn hunanwerthuso ein gweithgareddau i ddangos sut rydym yn cwrdd â’r canllawiau perthnasol
  • Mae’r hunanwerthusiad yn cael ei rannu gyda Llywodraeth Cymru.
  • Yn ogystal ag edrych ar ein hunanwerthusiad, gall Llywodraeth Cymru hefyd ystyried adborth gan denantiaid ac adolygu ein cynlluniau busnes
  • Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei hadroddiad ar y Dyfarniad Rheoleiddiol. Mae’r adroddiad hwn yn nodi Barn Reoleiddio Llywodraeth Cymru a’i nod yw rhoi dealltwriaeth i’n staff, cwsmeriaid a phartneriaid o ba mor dda rydym yn perfformio ar hyn o bryd yn erbyn y canlyniadau cyflawni sy’n ymwneud â:
    • Llywodraethu a gwasanaethau tenantiaid
    • Hyfywedd ariannol

Darllenwch ein Dyfarniad Rheoleiddio

Mae’r dyfarniad yn dod o fewn un o bedwar categori:

  • Cydymffurfio – Gwyrdd
  • Cydymffurfio – Melyn
  • Ddim yn cydymffurfio – Ambr
  • Ddim yn Cydymffurfio – Coch

Ym mis Hydref 2022, y dyfarniad a roddwyd i ni oedd ‘Cydymffurfio – Gwyrdd’ sy’n golygu bod y Gymdeithas yn cydymffurfio â’r safonau rheoleiddio ac y bydd yn cael arolygiaeth reoleiddiol arferol.