Graphic of a smoke alarm

Apêl ar denantiaid cymdeithas dai i wirio synwyryddion mwg

Mae Adra, cymdeithas dai fwyaf Gogledd Cymru yn atgoffa tenantiaid i wneud yn siŵr eu bod yn gwirio eu larymau mwg yn rheolaidd.

 Daw’r apêl yn dilyn tân mewn cegin mewn eiddo ym Mhenygroes yr wythnos hon ac roedd larwm mwg gweithredol yn golygu y gallai Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gael eu hysbysu.

Nawr mae Adra yn gofyn i denantiaid wirio eu larymau mwg o leiaf unwaith y mis, i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio’n iawn.

Dywedodd Celfyn Evans, Swyddog Cydymffurfiaeth Diogelwch Adra: “Roedd gan yr eiddo hwn synhwyrydd mwg gweithredol ac roedd hynny’n ffactor pwysig yn y digwyddiad hwn, gan ei fod yn golygu y gallai’r gwasanaeth tân ac achub gael eu rhybuddio.

“Mae cael synwyryddion mwg sy’n gweithio wir yn gwneud gwahaniaeth ac yn helpu i achub bywydau. Rydyn ni eisiau i bawb fod yn ddiogel yn eu heiddo a bydd cymryd camau syml fel gwirio larymau mwg fel rhan o drefn reolaidd yn helpu i roi tawelwch meddwl i bobl eu bod yn amddiffyn eu hunain a’u hanwyliaid.”

Mae rhagor o gyngor a gwybodaeth ar gael ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

www.tangogleddcymru.llyw.cymru