Llun dynes o flaen fan Adra yn dal copi o'r adroddiad gwerth cymdeithasol

Ar y rhestr fer ar gyfer gwobrau gwerth cymdeithasol

Rydym yn dathlu cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy anrhydedd mewn seremoni wobrwyo fawreddog yn y diwydiant.

Mae’r Gwobrau Gwerth Cymdeithasol yn wobrau cenedlaethol sy’n cydnabod ac yn hyrwyddo busnesau sy’n pwysleisio gwerth cymdeithasol fel rhan o’u gwaith o ddydd i ddydd.

Mae’r tîm  wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categorïau Arweinyddiaeth ac Atebolrwydd y Sector Preifat a Chadw Cofnodion.

Yn ystod 2023/24 cyflawnodd y cwmni werth cymdeithasol o £9,582,635 oedd o fudd i gymunedau ar draws gogledd Cymru.

Amlygodd ein adroddiad gwerth cymdeithasol diweddar a gyhoeddwyd gennym rai o’r cyflawniadau allweddol yn ymwneud â gwerth cymdeithasol:

  • Mae 94% o’n cyflenwyr Cymreig  wedi’u lleoli yng ngogledd Cymru
  • £55 miliwn wedi’i wario gyda chontractwyr gogledd Cymru
  • Cyflogwyd 370 o bobl leol gennym
  • Cefnogwyd 231 o bobl i mewn i gyflogaeth neu hyfforddiant gyda ni neu ein contractwyr

Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu ein hymrwymiadau i ddarparu cymorth ariannol ac arweiniad i denantiaid, tai â chymorth, delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, datgarboneiddio a’r amgylchedd, buddsoddi mewn cartrefi presennol a datblygiadau newydd, y Gymraeg a gweithio mewn partneriaeth.

Dywedodd Llinos Bracegirdle, ein Cydlynydd Gwerth Cymdeithasol: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori yn y gwobrau cenedlaethol hyn ac mae’n adlewyrchu’r holl waith gwych sy’n mynd ymlaen ar draws y busnes i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd am werth cymdeithasol.

“Hoffwn dalu teyrnged i ymrwymiad ein holl staff, partneriaid a chontractwyr i greu cyfleoedd i’n tenantiaid a’n cymunedau i ffynnu”.

Dywedodd Rhys Parry, ein Cyfarwyddwr Adnoddau: “Rydym am gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl, yn ogystal â’r gymuned ehangach. Mae’r ymrwymiad hwnnw wedi’i adlewyrchu yn ein Cynllun Corfforaethol sy’n canolbwyntio ar adeiladu cartrefi o safon y gall pobl fod yn falch ohonynt; cefnogi cymunedau a phobl i ffynnu; datgarboneiddio ein cartrefi; gwella profiad y cwsmer a chryfhau’r busnes.

“Rydym am ddarparu cyfleoedd i bobl gael mynediad at swyddi a hyfforddiant o safon; rydym am wneud yn siŵr bod y contractwyr a gyflogir gennym yn darparu buddion ychwanegol trwy fuddsoddiad a mentrau yn ein cymunedau ac rydym am barhau i chwarae ein rhan yn adfywio’r economi leol”.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn y gwobrau yn Birmingham ar Hydref 17.